English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Mater - cyfarfodydd

Pentref Chwaraeon

Cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet (Eitem 9.)

9. Strategaeth Datblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chaiff Atodiad 4 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

CYTUNWYD:

 

1.   cymeradwyo’r strategaeth ddatblygu newydd ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

 

2.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i fynd â datblygiad Glannau'r D?r yn ei flaen gan gynnwys gwaredu tir a neilltuo unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn unol â’r strategaeth gyllidol a amlinellir yn Atodiad cyfrinachol 4 ac yn amodol ar brisiad annibynnol fel y bo’r angen.

 

3.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i ddelio â phob agwedd ar gaffael partner masnachol i sefydlu a gweithredu atyniad hamdden newydd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i'w gymeradwyo'n derfynol. 

 

4.   Yn rhan o (iii) uchod,  dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i gynnwys gweithrediad allanol DGRhC yn rhan o’r broses gaffael yn unol â’r strategaeth a nodir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol.

 


 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.