9. Y Gwasanaeth Byw â Chymorth i Oedolion ag Anabledd Dysgu PDF 169 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cytuno i’r dull cyffredinol arfaethedig o ail-gomisiynu gwasanaethau byw â chymorth i oedolion ag anabledd dysgu; a
2. dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet (Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant), Swyddog 151 y Cyngor a Swyddog Monitro’r Cyngor, i bennu holl agweddau ar y broses gaffael a’r model byw â chymorth (gan gynnwys cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso i’w ddefnyddio, ac awdurdodi’r gwaith o ddyfarnu contractau) a’r holl faterion cysylltiedig eraill sy’n ymwneud â chaffael.