Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar y cynigion canlynol
• Diddymu Ysgol Gynradd Gatholig St Alban
• o 31 Awst 2021;
• Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Baden Powell o 420 lle (2 ddosbarth mynediad) i 630 (3 dosbarth mynediad) a lleihau ystod oedran yr ysgol o 3-11 oed i 4-11 oed o fis Medi 2021;
• Symud Ysgol Gynradd Baden Powell i Barc Tremorfa a newid yr adeiladau presennol am gyfleusterau newydd gyda lle i 630 o lefydd (3 dosbarth derbyn).
• Trosglwyddo Ysgol Uwchradd Willows i Brac Tremorfa a gosod adeiladau newydd sy’n cynyddu maint yr ysgol o 1,121 lle (7,4 dosbarth derbyn) i 1,200 lle (8 dosbarth derbyn)
• Sefydlu darpariaeth ôl-16 ar hyd at 250 o ddisgyblion yn yr adeiladau newydd;
• Cynyddu capasiti Ysgol Feithrin Tremorfa o 112 lle i 128 lle ac ehangu ystod y gwasanaethau a roddir ar y safle gan gynnwys gofal plant Dechrau’n Deg a chymorth rhianta, o fewn Canolfan Blant Integredig ar safle presennol Ysgol Feithrin Tremorfa a safle gwag Ysgol Gynradd Gatholig St Alban;
• Uwchraddio’r cyfleusterau cymunedol yn ward Sblot drwy osod man agored newydd yn hen safle Ysgol Uwchradd Willows, cyfleusterau cymunedol sylweddol well ar safle’r ysgol newydd, a chaeau chwaraeon newydd a rennir gyda Chlwb Rygbi Sant Alban a’r gymuned leol ehangach ym Mharc Trefmora.
Sylwer y bydd swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.