7. Cynigion ar gyfer Cyllideb 2019/20 PDF 957 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Adroddiad y Gyllideb 2019/20
Ni fydd Atodiadau 10(c) yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
wedi ystyried sylwadau Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r gyllideb ac addasrwydd arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb, mae’r Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn gwneud y canlynol:
1.0 Gymeradwyo’r cyllidebau Refeniw, Cyfalaf, Cyfrif Refeniw Tai gan gynnwys yr holl gynigion a chynyddu’r Dreth Gyngor gan 4.9% fel y nodir yn yr adroddiad hwn a bod y Cyngor yn cadarnhau'r termau canlynol.
2.0 Nodi y cyfrifodd y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2018 y nifer canlynol o anheddau ar gyfer blwyddyn 2019/20 yn unol ag Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) 145,499 – sef y swm a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Llinell Waelod y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel isafswm y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.
b) Llysfaen
c) 2,409 Pentyrch 3,280
Radur 3,783
Sain Ffagan 1,423
Pentref Llaneirwg 1,828
Tongwynlais 817
y rhifau a ddosbarthwyd yn unol â Rheoliad 6 fel swm llinell waelod Treth Gyngor y flwyddyn ar gyfer anheddau yn rhannau’r ardal y mae eitemau arbennig yn gysylltiedig â nhw.
2.1 Cytuno bod y symiau canlynol bellach yn cael eu cyfrif gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer y flwyddyn 2019/20 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) (gan gynnwys praeseptau’r Cyngor Cymuned sy’n £396,847).
b) £1,026,046,847
c) Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) a (c).
£405,161,000
d) Y swm y mae’r cyfanswm yn 2.1(a) yn fwy na’r cyfanswm yn 2.1(b) uchod a gyfrifwyd yn unol ag Adran 32(4) fel y gofyniad ar gyfer cyllideb y flwyddyn.
£620,885,847
e) Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y cânt eu talu yn ystod y flwyddyn i Gronfa’r Cyngor mewn perthynas â’r Grant Cynnal Refeniw, cynllun gostyngiad treth gyngor, Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu.
£444,629,480
f) Y swm ar 2.1(c) uchod ond gan dynnu swm 2.1(d) (net y swm ar gyfer rhyddhad diamod o £350,000), i gyd wedi’u rhannu gan y swm ar 2.0(a) uchod, wedi’i gyfrifo yn unol ag Adran 33(1) fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.
g) £1,213.80
h) Cyfansymu swm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1).
i) £396,847
j) Swm 2.1(e) uchod ond gan dynnu'r canlyniad a geir trwy rannu swm 2.1(f) uchod gan swm 2.0(a) uchod, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, ... view the full Penderfyniad text for item 7.