Manylion y penderfyniad

Cerbyd Pwrpas Arbennig Rhwydwaith Gwres Caerdydd - Cymeradwyo Achos Busnes Llawn

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Cabinet approved an Outline Business Case for the Cardiff Heat Network (CHN) on the 19th April 2018.This decision authorised the further development of a Final Business Case for Cabinet approval subject to securing the appropriate funding.

 

In January 2020, the Council were successful in gaining Capital grant funding of £6.628m for the first phase of the CHN from Department of Business, Energy and Industrial Strategy (BEIS) Heat Network Investment Project (HNIP). An £8.6m interest free loan over 30 years has also been agreed with Welsh Government with repayments starting in 2025.

 

A tender process has commenced to secure contractors to Design, Build, Operate and Maintain the CHN. A special purpose vehicle  (SPV) will be needed to manage the network with funds being on-lent/on-granted from the Council to the SPV.

 

The Cabinet Report will present the final business case following the completion of the tender exercise, and will seek permission to establish the SPV and enter into contracts for the delivery and operation of the network. Subject to final prices received at tender, and to office level discussions, it may also propose a direct Council investment to cover any manageable funding gap needed to progress the project.

 

Penderfyniad:

 

Nid yw Atodiad 1, 2 a 4 i'r adroddiad hwn i'w gyhoeddi yn rhinwedd paragraffau 14 o atodlen 12a o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi'i heithrio o dan atodlen 12a gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal y wybodaeth honno).  Yn holl amgylchiadau’r achos, ystyrir bod budd y cyhoedd o gynnal yr eithriad yn bwysicach na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.

 

Nid yw Atodiad 3 i'r adroddiad hwn i'w gyhoeddi yn rhinwedd darpariaethau atodlen 12a paragraff [16] (gwybodaeth y gellid cynnal hawliad i fraint broffesiynol gyfreithiol mewn achos cyfreithiol) i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.  bod yr Achos Busnes Terfynol ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerdydd (gan gynnwys Cerbyd Pwrpas Arbennig y prosiect) sy'n gysylltiedig â'r adroddiad hwn yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amlen fforddiadwyedd costau cyfalaf sy'n deillio o'r broses caffael, o ran dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal yn aros o dan gyfanswm y gost gyfalaf a nodir yn Nhabl 2 o'r Achos Busnes Terfynol cyfrinachol.

 

2.  Rhoddir cymeradwyaeth i'r Cytundeb Cyfranddalwyr rhwng y Cyngor a'r Cerbyd Pwrpas Arbennig, a dirprwyir yr awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd i wneud mân ddiwygiadau i hyn.

 

3.  Rhoddir cymeradwyaeth i sefydlu Cerbyd Pwrpas Arbennig y Cyngor sy'n eiddo'n gyfan gwbl, a elwir yn Rhwydwaith Gwres Caerdydd, o dan delerau'r Cytundeb Cyfranddalwyr sy'n cynnwys y Trefniadau Llywodraethu ffurfiol fel y disgrifir yn gyffredinol yn yr adroddiad.

 

4.  cytuno ar y grant Prosiect Buddsoddi Rhwydweithiau Gwres i'r Cerbyd Pwrpas Arbennig a dirprwyo'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd i gytuno ar y cytundeb ar ganiatáu rhwng y Cyngor a'r Cerbyd Pwrpas Arbennig a'i weithredu

 

5.  cytuno ar fenthyg ymlaen benthyciad Llywodraeth Cymru i'r Cerbyd Pwrpas Arbennig a dirprwyo'r Awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd i gytuno a gweithredu'r cytundeb benthyca rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru a'r cytundeb ar fenthyca rhwng y Cyngor a'r Cerbyd Pwrpas Arbennig.

 

6.  Awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd i gytuno ar ran y Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, y Cerbyd Pwrpas Arbennig gan ymrwymo i'r holl gytundebau angenrheidiol i weithredu'r prosiect, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

 

·           Dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal contractau ar gyfer adeiladu a gweithredu'r rhwydwaith

·           Y cytundeb cyflenwi gwres swmpus gyda Viridor

·           Y Cytundebau Cyflenwi Gwres gyda chwsmeriaid

·           Cytundebau cyfleustodau ar gyfer nwy a thrydan yn y ganolfan ynni wrth gefn

·           Hawddfraint i groesi tir preifat

·           Cytundeb prydlesu ar gyfer tir ar gyfer canolfan ynni wrth gefn

 

7.  Awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd a Swyddog A151 y Cyngor, i gytuno ar ran y Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, diweddariadau i'r Cynllun Busnes Cerbyd Pwrpas Arbennig a chydsyniad i unrhyw Faterion a Gadwyd yn ôl fel sy'n ofynnol gan Gytundeb y Cyfranddalwyr (yn amodol ar unrhyw fater y gellir ei gyfeirio at y Cyngor Llawn).

 

8.  Nodir bod y Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd eisoes wedi dirprwyo Awdurdod o dan gymeradwyaeth ABA o Ebrill 2018 i ddyfarnu contract dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol.

 

9.  Awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd i gytuno ar yr holl ddogfennau eraill sy'n ofynnol mewn perthynas â chyfansoddiad a llywodraethu a gweithrediadau'r Cerbyd Pwrpas Arbennig a'i berthynas â'r Cyngor.

 

10.Nodir y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor maes o law i gymeradwyo penodi cyfarwyddwr anweithredol allanol y Cerbyd Pwrpas Arbennig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 17/12/2020

Dyddiad y penderfyniad: 17/12/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/12/2020 - Cabinet

Effeithiol O: 01/01/2021

Dogfennau Cefnogol: