English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Construction Tender of Maelfa and St Mellons Older Person Housing Schemes

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae’r ddau broject adeiladu newydd yma wedi eu cynnwys yn rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor a bydd yn cyflenwi fflatiau pobl h?n i safon parod at ofal yn ogystal â gofod cymunedol.

 

Mae’r costau datblygu a amcanestynnir ar gyfer y projectau hyn  yn fwy na £5 miliwn ac felly mae angen cymeradwyaeth y Cabinet i’n galluogi ni i dendro am gontractwr.

 

Y costau adeiladu a amcanestynnir ar gyfer Llaneirwg yw £10.3 miliwn. Bydd y cynllun yn helpu i gyflenwi 60 o fflatiau hygyrch a gofod cymunedol cysylltiedig.

 

Y costau a amcanestynnir ar gyfer Maelfa yw £10.1 miliwn.Bydd y cynllun yn helpu i gyflenwi 41 o fflatiau hygyrch a gofod cymunedol cysylltiedig.

Penderfyniad:

Ni chyhoeddir Atodiadau i’r adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithriwyd o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   Dylid cymeradwyo'r broses gaffael i benodi contractwyr ar gyfer cynllun pobl h?n newydd Maelfa a Llaneirwg. 

 

2.   awdurdod i gael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau (mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau) i ymgymryd â phob agwedd ar y broses gaffael ar gyfer y ddau gynllun gan gynnwys pennu meini prawf tendr, cymeradwyo'r pecynnau tendr, gwerthuso meini prawf a chwblhau’r penodiadau.

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2020

Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/01/2020 - Cabinet

Effeithiol O: 05/02/2020

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.