English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Indoor Arena Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Cymeradwyo'r cynllun busnes ar gyfer adeiladu Arena Dan Do

Penderfyniad:

Nid yw Atodiadau 1 - 10 yr adroddiad hwn na chyngor cyfreithiol arall y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn na’r atodiadau  i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei eithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 121 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

i)         nodi’r cynnydd a wneir â’r broses gaffael i sicrhau datblygwr/gweithredwr consortiwm i gyflawni’r Arena Dan Do newydd;

 

ii)        awdurdodi caffael y buddsoddiad RDC yn unol â’r gwerthusiad annibynnol a’r adroddiad pwrcasu a atodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 7 ac yn rhestr daliadau a atodir yn Atodiad Cyfrinachol 9 ac yn unol â’r cyngor cyfreithiol a roddwyd yn Atodiad cyfrinachol 4;

 

iii)       cytuno ar y taliad a oedwyd a nodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 6 a fydd yn daladwy os bydd Arena Dan Do newydd yn cael ei ddwyn ymlaen ar safle Glanfa’r Iwerydd fel a ddangosir gan y linell goch ar y cynllun a atodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 1; 

 

iv)       i’w nodi y bydd awdurdodi caffaeliad y buddsoddiad yng nghanolfan y Ddraig Goch  yn tanio amlen fforddadwyedd yr Arena Dan Do, a gytunwyd yn wreiddiol fel rhan o Gyllideb y Cyngor a gymeradwywyd yn Chwefror 2019, ac felly yn galw am addasiadau i’r Fframwaith Cyllidebol ar gyfer 2019/20 a gytunwyd gan y Cyngor yn Chwefror 2019.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/12/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 04/01/2020

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.