English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Cynnig Datblygu Llanrhymni

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Bydd yr adroddiad yn amlinellu strategaeth ddatblygiad ar gyfer Llanrhymni i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithgarwch economaidd yn yr ardal.

Penderfyniad:

 

Nid yw Atodiadau 2-3 a 5-7 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei eithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 121 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

(1)     cytuno ar y strategaeth ddatblygu a osodwyd ger bron yn yr adroddiad i ddarparu pont newydd a ffordd gyswllt rhwng ystâd Llanrhymni a’r A48

 

(2)      dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu i farchnata tri pharsel o dir o eiddo’r Cyngor i’w gwaredu fel y dangoswyd yn Atodiad 4 ac i ddod nôl i gyfarfod Cabinet yn y dyfodol i gael awdurdod i gwblhau’r trafodion.

 

(3)     Cytundeb i’w roi mewn egwyddor i’r Cyngor gymryd rhan yn cyflawni’r Ganolfan Chwaraeon Awyr Agored sydd wedi ei osod ger bron yn yr Atodiad 6 Cyfrinachol a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu i gytuno ar Benawdau’r Telerau yn unol â’r rhai hynny a nodwyd yn yr Atodiad 7 Cyfrinachol. 

                       

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/12/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 04/01/2020

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.