Manylion y penderfyniad

Adult Social Services - Cardiff Older Peoples Home Care Fee Setting 2019/20 - 2022/23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion wedi bod yn cynnal ymarfer i ddeall cost arferol gofal y Gwasanaethau Gofal Preswyl a Nyrsio Pobl H?n yng Nghaerdydd.  Diben yr ymarfer hwn yw llunio strategaeth gosod ffioedd 3 blynedd ar gyfer darpariaeth Cartrefi Gofal Pobl H?n.

Mae’r adroddiad hwn i'r Cabinet yn nodi’r sail resymegol ar y fethodoleg a ddefnyddir i gyflawni’r gwaith a sut oedd gweithredwyr cyfredol yn rhan o'r broses o sefydlu gwir gost gofal

Bydd y Cabinet yn defnyddio’r wybodaeth hon i osod strategaeth ffioedd ar gyfer cartrefi gofal.

Penderfyniad:

Mae Atodiad C (cyngor cyfreithiol) wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 12.1 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cyn cymryd y penderfyniad isod, ystyriodd y Cabinet y ffactorau canlynol:

·       yr adnoddau sydd ar gael gan y Cyngor

·       y galw a’r blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cartref gofal

·       costau cyfreithlon a dyfodol y darparwyr

·       disgwylir modelau gweithredu mwy cost-effeithiol a gwasanaethau a gomisiynir

·       Y buddsoddiad sydd ei angen yma er mwyn i ddarparwyr fodloni gofynion y comisiynwyr a’r rheoleiddwyr (Arolygiaeth Gofal Cymru)

·       cydnabod bod rhaid i wasanaethau weithredu yn ddiogel ac yn effeithiol i hyrwyddo lles unigolion sydd dan eu gofal.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)   cytuno ar y dyfarniad ar gost safonol ar gyfer gofal cartref i bobl h?n fel y’i nodir yn yr adroddiad hwn ac y bydd yr holl wasanaethau cartref gofal newydd i bobl h?n yn cael eu comisiynu ar ffi safonol a gyhoeddir ar 1 Ionawr 2020, ar y gyfradd a nodir isod:

 

Categori   

Costau’r wythnos

·  Preswyl Pobl H?n                       £708.60

·  Preswyl Dementia                       £761.19

·  Nyrsio Pobl H?n              £702.04

·  Nyrsio Dementia                         £755.79

 

2)  y cynnydd mewn ffioedd ar gyfer 2019-20 wedi’i ôl-ddyddio o 8 Ebrill 2019, fel y’i nodir isod:

·      cynnydd o £40 yr wythnos ar gyfer pob lleoliad cartref gofal sydd yn is na’r gost safonol am ofal a nodwyd yn Argymhelliad Un a

·      chynnydd o £10 yr wythnos i’r holl leoliadau cartref gofal sydd o fewn £100 i’r gost safonol

·      Dim cynnydd i’r pecynnau cartref gofal hynny sy’n uwch na £100 uwchlaw’r gost safonol.

 

3)   Yn amodol ar adnoddau sydd ar gael, cytuno ar ddull graddol o godi pecynnau gofal sydd o dan y pris safonol a nodir yn Argymhelliad Un dros y tair blynedd nesaf (Ebrill 2020 tan Fawrth 2023). Bydd angen i’r cynnydd cynyddrannol ystyried effaith ar y costau safonol yn sgil cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol fydd yn uwch na chyfraddau MPD, yn ogystal a‘r adnoddau sydd ar gael i’r Cyngor.

 

4)   dirprwyo awdurdod y broses benderfynu ar gyfer codi ffioedd o 2020 ymlaen i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, i’r Swyddog adran 151 ac i’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Argymhelliad Dau a Thri ac yn amodol ar yr adnoddau gofynnol sydd ar gael.

 

5)   dirprwyo awdurdod ar gyfer yr holl benderfyniadau, yn ymwneud â’r dull newydd o sicrhau lleoliadau gofal cartref i bobl h?n, gan gynnwys methodoleg o benderfynu ansawdd, i’w weithredu o 1 Ebrill 2020, i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, i Swyddog Adran 151 y Cyngor ac i’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

6)   i nodi y gofynnir i’r Cabinet ystyried Polisi Codi Tâl Gwasanaethau Cymdeithasol newydd a gaiff ei gyflwyno ym mis Ionawr 2020.

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/11/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/11/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 04/12/2019

Dogfennau Cefnogol: