English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Monitro Mis 6

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Bydd yr adroddiad yn nodi sefyllfa monitro ariannol cyffredinol y Cyngor mewn perthynas â chyfrifon refeniw a chyfalaf.   Bydd hyn yn cynnwys dadansoddi amrywiant allweddol yn seiliedig ar chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Penderfyniad:

Nid yw Atodiad 2 yr adroddiad hwn i gael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 o Atodlen 12a i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   nodi alldro ariannol posibl ar sefyllfa ragamcanol ar gyfer Mis 6 y flwyddyn ariannol

 

2.   atgyfnerthu’r gofyniad ar i’r holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad hwn, i roi camau gweithredu ar waith i ostwng y gorwario rhagamcanol

 

3.   fod costau’r Cyngor ar gyfer cwblhau gwaith caffael consortiwm datblygwr/gweithredwr a ffefrir yn ogystal â pharatoi achos busnes llawn ar gyfer yr Arena Dan Do er mwyn i’r Cabinet eu cymeradwyo ym mis Mawrth 2020 i’w talu, fel a nodir yn Atodiad 4 sy’n gyfrinachol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/11/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/11/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 04/12/2019

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.