Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae dyletswydd statudol newydd ar gyrff cyhoeddus megis Cyngor Caerdydd o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn ôl y ddyletswydd newydd hon rhaid i gyrff cyhoeddus ‘geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth’ wrth arfer eu swyddogaethau, a hynny wrth ‘hyrwyddo gwydnwch ecosystemau’. Enw’r ddyletswydd hon yw Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau neu ‘BRED’ yn gryno (o’r Saesneg).
I helpu’r cyrff i gydymffurfio â’r ddyletswydd hon, mae’r Ddeddf Amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Caerdydd baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi sut y mae’n cynnig cydymffurfio â’r ddyletswydd newydd hon. Cyfeirir ato fel y ‘Blaengynllun BRED’. Y canllaw presennol gan Lywodraeth Cymru yw nad oes angen i’r Blaengynllun hwn fod yn ddogfen ar wahân, ond yn hytrach gellir ei ymgorffori mewn cynlluniau neu strategaethau eraill. Yn dilyn hyn, bydd rhaid i’r Cyngor gyhoeddi adroddiad yn 2019 yn nodi’r hyn a wnaed i gydymffurfio â’r ddyletswydd hon.
PENDERFYNWYD:
1. Cytuno’rBlaen Gynllun DBDE er mwyn ateb dyletswydd y Cyngor o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Bod y blaen gynllun DBDE yn helpu i fwydo adolygiad cynhwysfawr y Cyngor o’r Strategaeth hinsawdd, sydd yn mynd rhagddo bellach yn dilyn y datganiad Argyfwng Hinsawdd diweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2019
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/09/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 10/10/2019
Dogfennau Cefnogol: