Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Cytunwyd: y dylid dyfarnu’r contract ar gyfer Deunydd Ailgylchu Sych Cymysg i Coltar Recycling Ltdar gyfer Cyfran 1 (Preswyl) a Chyfran 2 (Masnachol)
Y rheswm am y penderfyniad a argymhellir yw bod yr Awdurdod angen rhoi trefniadau ar waith i gasglu, prosesu, ailddefnyddio/ailgylchu/adfer a chael gwared â’r gwastraff dinesig hwn i sicrhau’r perfformiad ailgylchu gorau ac osgoi dirwyon posibl gan Lywodraeth Cymru.Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys cynlluniau wrth gefn ar gyfer unrhyw broblemau annisgwyl gyda CAD ac er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth ac unrhyw effeithiau cysylltiedig ar gasglu gwastraff.
Bydd y Darparwr Gwasanaeth yn cynnig casglu’r deunydd dan sylw o’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff ac yn cludo’r gwastraff yn ddiogel ac yn unol â’r rheolau cydymffurfio i’w gyfleusterau trin gwastraff trwyddedig.
Dyddiad cyhoeddi: 12/09/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/09/2019
Effeithiol O: 25/09/2019