Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
1. Daw’r cynllun trwyddedu ychwanegol ym Mhlasnewydd i ben ym mis Tachwedd 2019. Mae’r adroddiad hwn yn ceisio awdurdod y Cabinet i gynnal ymgynghoriad statudol cyn dychwelyd i’r Cabinet er mwyn iddo ystyried ail-ddatganiad y cynllun.
2. Briffio’r Cabinet ar newidiadau yn Lloegr a ystyrir yng Nghymru ar hyn o bryd a fyddai’n cael effaith gadarnhaol sylweddol ar swyddogaeth trwyddedu tai amlfeddiannaeth yng Nghaerdydd pe byddent yn cael eu gweithredu yng Nghymru.
3. Briffio’r Cabinet ar y cynnydd sydyn o weithgarwch gorfodi angenrheidiol o ran “adeiladau a addaswyd yn wael” lle mae tenantiaid wedi cael eu rhoi mewn perygl.
PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi’r Gwasanaeth Rheoliadol A Rennir i gynnal ymgynghoriad statudol i ail-ddatgan Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Plasnewydd.
2. Swyddogion i’w hawdurdodi i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am gefnogaeth y Cyngor i’r gwaith ehangu arfaethedig i drwyddedu tai amlfeddiannaeth Mandadol, megis yn Lloegr ond hefyd i gynnwys “adeiladau a addaswyd yn wael”.
3. Nodir y bydd goblygiadau adnoddau i ehangu, na fydd ond rhai’n adenilladwy o incwm ffi drwyddedau tai amlfeddiannaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/07/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 24/07/2019
Dogfennau Cefnogol: