Manylion y penderfyniad

Strategaeth Cyllideb 2020/21 a'r Tymor Canolig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymell Ymlaen i'r Cyngor

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer strategaeth y gyllideb ar gyfer 2020/21, a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig sy’n cynnwys ystyriaeth o’r sefyllfa ariannol a thargedau arbedion i bob cyfarwyddiaeth.

Cydnabod Fframwaith Amserlen y Gyllideb ac anfon hwn ymlaen at y cyngor i’w gymeradwyo.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1)       y cytunir ar egwyddorion y gyllideb y mae'r Adroddiad ar Strategaeth y Gyllideb yn seiliedig arnynt, gan gynnwys defnydd ymagwedd dargedig i fodloni’r Gofyniad am Leihau’r Gyllideb yn 2020/21 ac ar draws cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yng nghyd-destun yr amcanion a nodir yn Uchelgais Prifddinas. 

 

(2)       bod cyfarwyddiaethau’n gweithio gyda’r Aelod Cabinet Portffolio perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a’r Aelod Cabinet dros Adnoddau a Rheoli Perfformiad er mwyn nodi arbedion posibl er mwyn cynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyllideb o £25 miliwn ar gyfer 2020/21 a £101 miliwn yn ystod cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

(3)       Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, weithredu unrhyw gynnig arbedion cyn 2020/21 lle nad oes angen argymhelliad polisi neu pan fo penderfyniad polisi eisoes wedi’i wneud.

 

(4)       Nodir y bydd gwaith yn parhau i ddiweddaru ac adnewyddu’r CATC ac y caiff ei adrodd i Aelodau fel y bo’n briodol.

 

(5)       ceisio datganiadau o ddiddordeb gan swyddogion o ran y cynllun dileu swyddi gwirfoddol, er mwyn cefnogi’r gwaith i sicrhau arbedion sy’n ofynnol yn yr adroddiad.

 

(6)       y Cyngor yn cael argymhelliad i gytuno y caiff y Fframwaith Amserlen Cyllidebol a osodir yn Atodlen 2 ei fabwysiadu ac y caiff y gwaith a amlinellir ei symud ymlaen gyda'r nod o lywio paratoadau ar gyfer y gyllideb.

 

(7)       ymgynghori ar gynigion cyllideb 2020/21 i lywio’r gwaith o baratoi Cyllideb ddrafft 2020/21.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/07/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 24/07/2019

Dogfennau Cefnogol: