Manylion y penderfyniad

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Ysgolion yr 21ain Ganrif (Band B) Ysgol Uwchradd Willows

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr ystyriodd y Cabinet adroddiad yn nodi cynlluniau â blaenoriaeth y Cyngor yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B. Ymhlith y blaenoriaethau mae cynnig i Ysgol Uwchradd Willows gael ei ail-adeiladu a’i ehangu i gynnig ysgolion uwchradd 11-16 newydd gydag wyth dosbarth mynediad. Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori ar y cynnig hwn.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar y cynigion canlynol

 

      Diddymu Ysgol Gynradd Gatholig St Alban

       o 31 Awst 2021;

      Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Baden Powell o 420 lle (2 ddosbarth mynediad) i 630 (3 dosbarth mynediad) a lleihau ystod oedran yr ysgol o 3-11 oed i 4-11 oed o fis Medi 2021;

      Symud Ysgol Gynradd Baden Powell i Barc Tremorfa a newid yr adeiladau presennol am gyfleusterau newydd gyda lle i 630 o lefydd (3 dosbarth derbyn).

      Trosglwyddo Ysgol Uwchradd Willows i Brac Tremorfa a gosod adeiladau newydd sy’n cynyddu maint yr ysgol o 1,121 lle (7,4 dosbarth derbyn) i 1,200 lle (8 dosbarth derbyn)

      Sefydlu darpariaeth ôl-16 ar hyd at 250 o ddisgyblion yn yr adeiladau newydd;

      Cynyddu capasiti Ysgol Feithrin Tremorfa o 112 lle i 128 lle ac ehangu ystod y gwasanaethau a roddir ar y safle gan gynnwys gofal plant Dechrau’n Deg a chymorth rhianta, o fewn Canolfan Blant Integredig ar safle presennol Ysgol Feithrin Tremorfa a safle gwag Ysgol Gynradd Gatholig St Alban;

      Uwchraddio’r cyfleusterau cymunedol yn ward Sblot drwy osod man agored newydd yn hen safle Ysgol Uwchradd Willows, cyfleusterau cymunedol sylweddol well ar safle’r ysgol newydd, a chaeau chwaraeon newydd a rennir  gyda Chlwb Rygbi Sant Alban a’r gymuned leol ehangach ym Mharc Trefmora.

Sylwer y bydd swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Pobl yr ymgynghorir รข hwy

Byddwn yn ymgynghori ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys Aelodau, Llywodraethwyr, Penaethiaid, staff ysgol, rhieni, plant a phreswylwyr lleol yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/07/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 24/07/2019

Dogfennau Cefnogol: