Manylion y penderfyniad

Ysgolion yr 21ain Ganrif, Band B: Adeilad Newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr ystyriodd y Cabinet adroddiad yn nodi cynlluniau â blaenoriaeth y Cyngor yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B. Bydd yr adroddiad hwn yn nodi’r cynnig i ail-adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan fel ysgol uwchradd 11-18 newydd gyda 10 dosbarth mynediad ac yn manylu’r ymatebion i’r ymgysylltiad cyhoeddus.

 

Penderfyniad:

Mae Atodiad 10 wedi’i eithrio o gael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth yn ôl paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol Act 1972

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   nodi’r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymarfer ymgysylltiad cyhoeddus ynghylch y cynnig i roi adeilad ysgol newydd sbon i Ysgol Uwchradd Fitzalan

 

2.   dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a Chyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol, a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau) i bennu holl agweddau ar y broses gaffael (gan gynnwys, er mwyn osgoi amheuaeth, llunio’r holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â chaffael a’r meini prawf dethol a dyfarnu, dechrau’r broses gaffael tan ddyfarnu’r contractau) ar gyfer yr ysgol newydd sbon.

 

Rhesymau eraill / sefydliadau a ymgynghorwyd

Bydd ymgysylltiad cyhoeddus yn cael ei gynnal gydag Aelodau, y gymuned leol, staff a Llywodraethwyr yr ysgol, ysgolion lleol eraill, disgyblion a rhanddeiliaid eraill.

 

Pobl yr ymgynghorir รข hwy

A public engagement will be undertaken with Members, the local community, staff and Governors of the school, other local schools, pupils and other stakeholders.

Dyddiad cyhoeddi: 25/01/2019

Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/01/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 06/02/2019

Dogfennau Cefnogol: