Manylion y penderfyniad

Ymyrraeth yn Ysgol Gynradd Gatholig Sain Pedr

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

CYTUNWYD: bod un o’r llywodraethwyr ychwanegol a benodwyd ym mis Ionawr 2019 yn cael ei enwebu yn Gadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr, yn unol ag Adran 6(3) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Rhesymau dros y penderfyniad:

Yn unol â Deddf SThYC 2013, bod un neu ragor o’r seiliau statudol dros ymyriad gan y Cyngor yn bodoli, a bod gofyn gweithredu un neu ragor o bwerau ymyrryd y Cyngor er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a sicrhau gwelliant.  Ond, mae’r llywodraethwr ychwanegol a enwebwyd fel cadeirydd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2019 wedi cyflwyno ei hymddiswyddiad o’r Corff Llywodraethu. Felly, mae angen cadeirydd Llywodraethwyr arall.

 

Subject to Urgent Proceedings: Mae'r Swyddog Monitro a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc wedi cytuno y dylid gwneud y penderfyniad ar frys, ac felly nid yw'n briodol i'w alw i mewn, ond dylid adrodd arno er gwybodaeth yng nghyfarfod nesaf posibl y Cyngor, yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Graffu, Rheol 13.

Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 31/01/2020