Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymell Ymlaen i'r Cyngor
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae Polisi Enwi Strydoedd i gynnig cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr a pherchnogion eiddo presennol, yn nodi sut mae'r Cyngor yn rheoli enwi a rhifo strydoedd ac eiddo dan ddarpariaethau Deddf Iechyd y Cyhoedd 1925 - Adrannau 17 i 19. Yn unol ag ymrwymiad y Cyngor i Safonau’r Gymraeg, mae ystyriaethau pwysig o ran y Gymraeg mewn perthynas ag enwau stryd newydd. Y polisi a nodir yn y ddogfen yw y dylid mabwysiadu enw Cymraeg ar gyfer enwau strydoedd newydd sy'n “gyson â threftadaeth leol a hanes yr ardal”. Mae hyn yn dileu'r angen am gyfieithiadau Saesneg i Gymraeg ar gyfer enwau strydoedd. Mae'r polisi hefyd yn nodi'r gofynion corfforaethol o amgylch y Rhestr Cyfeiriadau Corfforaethol, sef y brif gofrestr cyfeiriadau a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau'r Cyngor.
Cafodd y Polisi Enwi Strydoedd Drafft ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ym mis Tachwedd. Derbyniodd yr ymgynghoriad cyhoeddus 2,248 o ymatebion.
PENDERFYNWYD: fod y polisi enwi strydoedd a atodwyd i’r adroddiad i gael ei gymeradwyo ac argymell i’r Cyngor fabwysiadu’r polisi Enwi Strydoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2019
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/09/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 10/10/2019
Dogfennau Cefnogol: