Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Ni fydd Atodiad yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriadol â’r disgrifiad ym mharagraff 14 rhan 4 a Pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol.
Cytunwyd: y byddai’r Cyngor yn bwrw ymlaen ac yn prynu eiddo perthnasol hyd at y gwerth a nodir yn Atodiad 1
Galluogi Cymunedau a Thai i barhau i brynu eiddo addas, ac i’w cadw nhw yn stoc tai’r Cyngor, i gynyddu nifer y tai a’r fflatiau teuluol sydd ar gael i’w gosod ar lefel rhentu cymdeithasol gan ddefnyddio proses dyraniadau’r Cyngor. Mae gan y Cyngor alw uchel iawn am dai â 2, 3 a 4 ystafell wely, tai sy’n addas i gael eu haddasu i fod yn dai hygyrch a fflatiau llawr daear ym mhob rhan o’r ddinas ond dim llawer o argaeledd. Bydd prynu eiddo o’r farchnad agored yn cynyddu ein stoc tai, gan helpu i gyflawni ein targed o 1,000 o dai cyngor newydd erbyn 2022.
Dyddiad cyhoeddi: 20/09/2019
Dyddiad y penderfyniad: 13/09/2019
Effeithiol O: 03/10/2019