Manylion y penderfyniad

Cytundeb Partneriaeth Strategol Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy (yn amodol ar galw i mewn)

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Diben:

Dylai’r Cabinet gymeradwyo'r Cytundeb Partneru Strategol â Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru er mwyn hwyluso’r ffordd y caiff cyfleusterau addysg a chymunedol eu cynnig trwy Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru am y rhesymau canlynol:

 

·  Credir bod Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru yn fodel cyflawni sy’n cynnig gwerth am arian;

·  Mae’r Cytundeb Partneru Strategol â Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru er mwyn hwyluso’r ffordd y caiff cyfleusterau addysg a chymunedol eu cynnig yn gyson ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru ac yn darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni projectau yn y dyfodol;

·  Prin yw'r risg fasnachol i'r Cyngor hyd nes y caiff projectau eu datblygu dan y Broses Cymeradwyo Project Newydd.  

 

Cynigir dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes fel y nodir yn argymhelliad d.  Mae hyn er mwyn caniatáu gwneud unrhyw fân newidiadau i’r Cytundeb Partneru Strategol fel y nodir yn nhroednodiadau Atodiad 1 ac i sicrhau bod unrhyw ddiweddariadau pellach yn adlewyrchu cyngor a roddwyd yn ogystal â chwblhau unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r Cytundeb.

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD:

 

(a)    nodi canlyniad Cam Cynigydd a Ffefrir y Weithdrefn Ddialog Gystadleuol dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 fel y nodir yn yr adroddiad hwn

 

(b)    Yn amodol ar argymhelliad (c) a (d), cymeradwyo’r ffordd y caiff y Cytundeb Partneru Strategol â Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru ym mis Hydref 2020 ei weithredu a’i roi ar waith a chymeradwyo perfformiad y cytundeb hwnnw, er mwyn hwyluso’r ffordd y caiff ystod o wasanaethau seilwaith eu darparu a’r ffordd y caiff cyfleusterau addysg a chymunedol eu cynnig.

 

(c)     cymeradwyo’r Cytundeb Partneru Strategol sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn ac a grynhoir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn er mwyn cyflawni argymhelliad (b), yn amodol ar argymhelliad (d) isod;

 

(d)    dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Swyddog a151:

 

i)    I gytuno ar fân newidiadau i’r Cytundeb Partneru Strategol a gymeradwyir yma yn ôl yr angen, am resymau sy’n cynnwys, er nid yn unig am y rhesymau hyn, gwblhau unrhyw feysydd heb eu cwblhau ac adlewyrchu cyngor a roddwyd; ac

 

ii)   I gymeradwyo unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy’n ategol i’r Cytundeb Partneru Strategol a gymeradwyir yma

 

(e)    Nodi y bydd y Prif Weithredwr yn defnyddio ei awdurdod a ddirprwywyd i benodi Cyfarwyddwr y Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion neu’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes yn ‘Cynrychiolydd Cyfranogol’ i sefyll ar y Bwrdd Partneru Strategol;

 

(f)      Nodi, wrth gytuno i’r Cytundeb Partneru Strategol, na ofynnir i’r Cabinet benderfynu i fwrw unrhyw broject yn ei flaen. Caiff unrhyw benderfyniad i fwrw projectau yn eu blaen ei adrodd i’r Cabinet mewn adroddiadau yn y dyfodol i benderfynu arnynt.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2020

Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2020 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: