Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Roedd yr adroddiad cabinet ar 20 Medi 2018 yn galw am gymeradwyaeth ar gyfer ymagwedd at Wasanaethau Gofal Cartref a oedd yn seilieig ar ganlyniadau lleol.
Bydd yr Institute of Public Care (IPC) yn cefnogi cyngor Caerdydd i ymgysylltu â’r farchnad gan gynnwys amrywiol adrannau (system cyfan) i ddatblygu gwasanaeth gwell, cadarnach, hyblyg a blaengar sy’n diwallu ystod o anghenion oedolion a phlant sy’n derbyn gofal a chymorth.
Bydd y model gwasanaeth yn cael ei gynllunio i ystyried rhyngddibyniaethau eraill y mae’r cyngor yn gweithio drwyddynt sy’n cynnwys Timau Adnoddau Cymunedol (TAC) ac ymagwedd yn seiliedig ar gryfhau.
Law yn llaw â manyleb ar gyfer y gwasanaeth fe fydd set o ddeilliannau ar gyfer dinasyddion gyda dangosyddion perfformiad allweddol a set o safonau ansawdd.
PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar y weledigaeth ar gyfer darparu gofal cartref yng Nghaerdydd a'r model newydd arfaethedig ar gyfer dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr ardal ac ar ganlyniadau, ynghyd â'r cynllun gweithredu 2 flwyddyn.
2. Awdurdod i gael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet, Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles a'r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, Swyddog Adran 151 y Cyngor a Swyddog Monitro'r Cyngor, i benderfynu ar bob agwedd ar y broses gaffael neu ar ail-gomisiynu gwasanaethau gofal cartref (gan gynnwys gwneud penderfyniadau yngl?n â’r Ymarfer Cost Gofal, cymeradwyo'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, ac awdurdodi dyfarnu'r contractau) a’r holl faterion atodol sy'n ymwneud â'r caffaeliad a'r cynigion uchod.
Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2020
Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/01/2020 - Cabinet
Effeithiol O: 05/02/2020
Dogfennau Cefnogol: