English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Polisi Enwi Strydoedd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymell Ymlaen i'r Cyngor

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae Polisi Enwi Strydoedd i gynnig cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr a pherchnogion eiddo presennol, yn nodi sut mae'r Cyngor yn rheoli enwi a rhifo strydoedd ac eiddo dan ddarpariaethau Deddf Iechyd y Cyhoedd 1925 - Adrannau 17 i 19.  Yn unol ag ymrwymiad y Cyngor i Safonau’r Gymraeg, mae ystyriaethau pwysig o ran y Gymraeg mewn perthynas ag enwau stryd newydd.   Y polisi a nodir yn y ddogfen yw y dylid mabwysiadu enw Cymraeg ar gyfer enwau strydoedd newydd sy'n “gyson â threftadaeth leol a hanes yr ardal”. Mae hyn yn dileu'r angen am gyfieithiadau Saesneg i Gymraeg ar gyfer enwau strydoedd.  Mae'r polisi hefyd yn nodi'r gofynion corfforaethol o amgylch y Rhestr Cyfeiriadau Corfforaethol, sef y brif gofrestr cyfeiriadau a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau'r Cyngor.

Cafodd y Polisi Enwi Strydoedd Drafft ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ym mis Tachwedd.  Derbyniodd yr ymgynghoriad cyhoeddus 2,248 o ymatebion.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: fod y polisi enwi strydoedd a atodwyd i’r adroddiad i gael ei gymeradwyo ac argymell i’r Cyngor fabwysiadu’r polisi Enwi Strydoedd.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2019

Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/09/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 10/10/2019

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.