Manylion y penderfyniad

Polisi Dilysu sy'n Seiliedig ar Risgiau ar gyfer Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Yn dilyn peilot llwyddiannus, cynigir y dylid cyflwyno Gwiriadau Seiliedig ar Risgiau ar gyfer bob hawliad.   Mae Gwiriadau Seiliedig ar Risgiau yn newid y ffordd y mae hawliadau budd-dal tai yn cael eu gwirio, gan leihau faint o dystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer achosion risg isel tra’n sicrhau bod mwy o sylw’n cael ei roi i wirio hawliadau risg uchel.

Penderfyniad:

Ni fydd Atodiadau A-C yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14, 18 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo’r polisi ar gyfer Dilysu Seiliedig ar Risg fel y’i hatodir yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

2.   y bydd y polisi yn dod i rym o 1 Ionawr 2020.

 

Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Tai a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i adolygu’r polisi yn flynyddol a gwneud newidiadau yn ôl yr angen.

Dyddiad cyhoeddi: 21/11/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/11/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 04/12/2019

Dogfennau Cefnogol: