Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy (yn amodol ar galw i mewn)
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu lleol (CDLl) presennol ar 28 Ionawr, 2016 a diben yr adroddiad hwn yw i ymateb i ddeddfwriaeth sy’n gofyn i Awdurdodau Lleol gwblhau adroddiad o’u Cynllun Datblgu Lleol (CDLl) o fewn 4 blynedd iddo gael ei fabwysiadu. Yn benodol, mae angen cymeradwyo:
· Ymgynghori ar yr Adroddiad Adolygiad o CDLl Caerdydd drafft sy’n cynnig bod adolygiad llawn yn cael ei wneud o’r CDLl trwy baratoi CDLl newydd ar gyfer y cyfnod 2020-2035;
· Ymgynghori ar Gytundeb Cyflenwi drafft y CDLl Newydd i Gaerdydd; a
· Adroddyn ôl i’r Cyngor ar ganlyniadau’r broses ymgynghori a’r Adroddiad Adolygu terfynol yng ngwanwyn 2020.
PENDERFYNWYD: argymell i’r cyngor gymeradwyo’r Adroddiad Adolygu drafft a’r Cytundeb Cyflawni drafft at ddibenion yr ymgynghoriad a chytunwyd y cyflwynir adroddiad arall i’r Cyngor yn ystod Gwanwyn 2020 gyda chanfyddiadau’r broses ymgynghori a’r argymhellion ar gyfer y ffordd arfaethedig ymlaen.
Dyddiad cyhoeddi: 21/11/2019
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/11/2019 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: