English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Papur Gwyn Trafnidaiaeth: Gweledigaeth Trafnidiaeth Caerdydd - 2030

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Datblygu Papur Gwyn drafft a lunnir gan yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd Trafnidiaeth ac Aer Glân a gynhaliwyd yn nhymor y Gwanwyn 2018.  Bydd y Papur Gwyn yn cynnig gweledigaeth hir dymor i rwydwaith trafnidiaeth y ddinas, yn alinio’n agos â’r rhaglen waith aer glân barhaus y mae’r Cyngor yn ei chynnal gyda Llywodraeth Cymru.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.     Cymeradwyo’r Papur Gwyn – gweledigaeth drafnidiaeth Caerdydd - 2030 sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1 i'r adroddiad

2.     Nodir y bydd y Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet, yn cynnal adolygiad o staffio ac adnoddau ac yn asesu gofynion y gweithlu er mwyn sicrhau bod projectau'r Papur Gwyn a'r gwaith o ddatblygu’r Achos Busnes ar opsiynau cyflenwi yn gallu cael ei gyflawni’n ddigonol.

 

3.     Dylid cymeradwyo'r broses o ddatblygu achosion busnes strategol ac amlinellol ar yr opsiynau cyflenwi a dylid dirprwyo'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, yn amodol ar ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, Aelod Cabinet Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, Swyddog a. 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, i ymdrin â phob agwedd o'r broses gaffael (gan gynnwys cymeradwyo'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, dechrau'r broses gaffael ac awdurdodi dyfarnu'r contract arfaethedig) a’r holl faterion ategol sy'n ymwneud â'r caffael. 

4.     Ceir adroddiad pellach ar ganlyniadau'r achos busnes amlinellol i gytuno ar unrhyw ymgynghori angenrheidiol a'r camau nesaf i ddatblygu'r achos busnes llawn.

5.     Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i ymgysylltu â'r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol a phartneriaid/rhanddeiliaid eraill ar y Papur Gwyn ac achosion busnes ar yr opsiynau cyflenwi.

6.     Mae gweledigaeth drafnidiaeth Caerdydd-2030 yn cael ei chyfeirio at y Cyngor i’w nodi

Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2020

Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/01/2020 - Cabinet

Effeithiol O: 05/02/2020

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.