Manylion y penderfyniad

Diweddariad ar Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy (yn amodol ar galw i mewn)

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Diben:

Bydd yr adroddiad yn cytuno ar y camau nesaf ar gyfer sefydlu Bwrdd Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd i oruchwylio’r gwaith o roi’r Strategaeth Gerddoriaeth ar waith

Penderfyniad:

Ni chaiff Atodiad 5 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a pharagraff atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

CYTUNWYD:

 

(1)     cymeradwyo’r ymateb i Adroddiad Sound Diplomacy wedi ei atodi fel Atodiad 2 at yr adroddiad.

 

(2)     cymeradwyo Cylch Gorchwyl Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd sydd wedi ei atodi fel Atodiad 3 i'r adroddiad

 

(3)     cymeradwyo penodi Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd i benodi’r unigolion a enwir yn Atodiad Cyfrinachol 5 yr adroddiad

 

(4)     dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Swyddog Monitro a'r swyddog Adran 151 i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynigion manwl ar gyfer y prif ddigwyddiad fel y’i amlinellir ym mharagraff 22 yr adroddiad i’w ddiweddaru mewn cyfarfod o’r Cabinet yn y dyfodol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 10/10/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: