English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Adolygu darpariaeth asiantaeth Caerdydd ar Waith a Matrics Caerdydd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Trosglwyddwyd Rheolaeth gweithwyr Caerdydd ar Waith a Matrix (contract ar gyfer asiantaeth dros dro) o Adnoddau Dynol i Dai a Chymunedau ym mis Ebrill 2019.

 

Y weledigaeth gyfunol y tu ôl i hyn oedd creu cysylltiadau newydd ac alinio cyfleoedd rhwng gwasanaethau I Mewn i Waith, Caerdydd ar Waith a darpariaethau asiantaethol eraill yn gyfan gwbl. Byddai hyn yn cynnwys cyfweliadau gwarantedig, lleoliadau gwaith a blaenoriaethu cleientiaid i mewn i waith ar gyfer unrhyw gyfleoedd sydd ar y gweill.

 

Mae Matrix wedi bod yn cyflenwi’r Cyngor â staff asiantaeth ers mis Rhagfyr 2016. Daw’r contract i ben ar 7 Medi 2019.

 

Mae angen cynnal adolygiad llwyr o’r gwasanaeth i ddeall yr hyn sydd ei angen yn union gan y darparwr gwasanaeth a sut i ychwanegu gwerth i’r contract yn y modd gorau posibl, cyn cynnal unrhyw waith ail-gomisiynu. Y cynnig yw dyfarnu contract uniongyrchol i Matrix am 12 mis er mwyn gallu cyflawni hyn. Bwriedir i’r contract newydd ddod i rym erbyn Medi 2020 .

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo dyfarniad uniongyrchol i’r darparwr presennol Matrix SCM Ltd (am wasanaethau asiantaeth) am gyfnod o 12 mis Bydd hyn yn para o 8 Medi 2019 i 7 Medi 2020.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/07/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 24/07/2019

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.