Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r barn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion ar sut ddylid bwrw ymlaen.
PENDERFYNWYD:
1. cyhoeddi hysbysiadau statudol i:
· Gynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cantonian o 6 dosbarth mynediad (6DM) i wyth dosbarth mynediad (8DM) gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion mewn llety newydd;
· Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddysgwyr a Chyflwr Sbectrwm Awtistig (CSA) yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 i 30 o leoedd mewn llety pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;
· Symud Ysgol Arbennig Woodlands i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 140 o leoedd i 240 o leoedd mewn llety newydd;
· Symud Ysgol Arbennig Riverbank i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 70 o leoedd i 112 o leoedd mewn llety newydd.
2. Nodi, petai gwrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol cyhoeddedig yn dod i law, y byddai’r Cyngor yn cyhoeddi crynodeb o’r gwrthwynebiadau hyn ac ymateb y Cyngor i’r gwrthwynebiadau hynny.
3. Nodi o fewn 25 diwrnod o ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu y bydd y Cyngor yn anfon copïau o’r gwrthwynebiadau statudol ymlaen, yn ychwanegol at yr adroddiad gwrthwynebu, i Weinidogion Cymru i benderfynu ar y cynnig.
4. Nodi y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad dilynol ar gynigion pellach i gynyddu nifer y lleoedd ysgol arbennig ar gyfer plant cynradd ag anghenion dysgu cymhleth.
Dyddiad cyhoeddi: 14/06/2019
Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 26/06/2019
Dogfennau Cefnogol: