Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Papur Gwyn o’r enw Trafnidiaeth Cyhoeddus Gwell, gan drafod opsiynau posibl i wella gwasanaethau bws yng Nghymru gan gynnwys sefydlu un neu fwy o Awdurdodau Trafnidiaeth ar y cyd i gynnal swyddogaethau cynllunio trafnidiaeth sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan Awdurdodau Lleol, gan alluogi Awdurdodau Lleol i sefydlu cwmnïau bws lleol, a newid deddfwriaeth er mwyn masnachfreinio gwasanaethau bws lleol.
Mae’r papur hefyd yn trafod cynigion i osod holl safonau Cymru ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat ac i ehangu pwerau Awdurdodau Trwyddedu i drafod bob cerbyd sy’n gweithredu yn ardal yr awdurdod, p’un a ydynt wedi’u trwyddedu gan yr awdurdod hwnnw ai peidio.
Yn ogystal, cynigir newidiadau i’r cynllun Ffioedd Consesiynol Cymru Gyfan a chymhwysedd y cynllun Pobl Ifanc.
Mae’r adroddiad yn trafod ymateb y Cyngor i’r Papur Gwyn.
PENDERFYNWYD:
1. cynnwys Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus i gael ei nodi
2. bydd yr ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru - Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus (sydd wedi'i atodi yn Atodiad A i'r adroddiad) yn cael ei gymeradwyo i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 27 Mawrth 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/03/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 03/04/2019
Dogfennau Cefnogol: