Manylion y penderfyniad

Gorchmynion diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae newidiadau i ddeddfwriaeth yn golygu bod angen i’r Cyngor gael Datganiad Polisi ynghylch defnyddio Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus. Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon yn cefnogi ehangu pwerau gorfodi i ddileu ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn cyflawni amgylchedd diogelach, glanach a mwy cynaliadwy ledled Caerdydd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod:

 

1. cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Rheoli C?n o dan adran 59 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i gael ei gymeradwyo i gynnwys:

 

·          Gwahardd baw c?n ym mhob man cyhoeddus sy'n eiddo i'r Cyngor ac/neu a gynhelir ganddo

·          Ei bod yn ofynnol i berchnogion c?n gael dull o glirio baw c?n.

·          Y gwaharddiad o g?n o bob maes chwarae caeedig ac ysgol y mae Cyngor Caerdydd yn berchen arnynt a/neu'n eu cynnal

·          Y gofyniad bod c?n yn cael eu cadw ar dennyn o fewn pob mynwent y mae Cyngor Caerdydd yn berchen arnynt a/neu yn eu cynnal

·          Gofyniad sy'n caniatáu i swyddogion awdurdodedig roi cyfarwyddyd i gi/c?n gael eu rhoi ar dennyn os oes angen

·          Mae'r tâl hysbysiad cosb benodedig am dorri Gorchymyn Diogelu Mannau cyhoeddus ar gyfer rheoli c?n, fel y nodir uchod, wedi'i osod ar £100.

·           Bydd y mesurau rheoli c?n yn esempt ar gyfer pobl sydd ag anabledd sy'n effeithio ar eu symudedd, eu deheurwydd llaw, eu cydsymudiad corfforol neu eu gallu i godi, cario neu symud pethau bob dydd, mewn perthynas â chi sydd wedi'i hyfforddi gan elusen gofrestredig ac ar y mae'r person yn dibynnu arno am gymorth

 

2.         y dylid cymeradwyo'r polisi newydd ar gyfer Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus

Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/03/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 03/04/2019

Dogfennau Cefnogol: