English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Daw Atodlen 3 Deddf Rheoli D?r a Llifogydd 2010 i rym

ar 7 Ionawr 2019. O’r dyddiad hwn ymlaen:

·      Rhaid i bob datblygiad o fwy nag 1 t? neu pan yw’r ardal adeiladu dros 100m2 neu fwy, fod â systemau draenio cynaliadwy (SDC) i reoli d?r wyneb;

·      Rhaid i systemau draenio pob datblygiad newydd gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau SDC statudol;

·      Bydd awdurdodau lleol yn dod yn Gyrff Cymeradwyo SDC (CCS);

·      Rhaid i gynlluniau SDC gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol  yn gweithredu yn ei rôl CCS cyn y gall y gwaith adeiladu ddechrau.

·      Bydd dyletswydd ar y CCS i fabwysiadu SDC sy’n cydymffurfio ar yr amod eu bod wedi eu hadeiladu ac yn gweithio yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyo gan CCS.

 

Penderfyniad:

Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau)

PENDERFYNWYD:

 

1.      cymeradwyo sefydlu corff cymeradwyo SDCau yn y Tîm Rheoli Risg Arfordirol

 

2.      dirprwyo cyfrifoldeb Corff Cymeradwyo SDCau i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd er mwyn gallu dirprwyo penderfyniadau i raddau mwy helaeth

 

3.   Dirprwyo awdurdod dros osod lefelu ffioedd disgresiwn sy’n gysylltiedig â’r corff cymeradwyo i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd a’r Swyddog Adran 151.

4.    

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/02/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/02/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/02/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 06/03/2019

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.