English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Gorfodi Parcio Sifil a Throsedd Traffig sy'n Symud - Heriau, Sylwadau a Pholisi Apelio

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae'r ddogfen yn nodi ein canllawiau ar ystyried heriau, cynrychioliadau ac apeliadau yn erbyn cyhoeddi hysbysiadau tâl cosb yn ogystal â phenderfynu ar brosesau gorfodi i'w dilyn er mwyn sicrhau cysondeb ac ymlyniad i'r ddeddfwriaeth bresennol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   bod y polisi newydd (sydd wedi'i atodi yn Atodiad A i'r adroddiad) ar gyfer ystyried heriau, sylwadau ac apeliadau sy'n gysylltiedig â gorfodi parcio sifil a throseddau traffig sy'n symud yn cael ei gymeradwyo.

 

2.   Awdurdod i gael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Strydlun mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i ddiweddaru'r polisi, o bryd i'w gilydd, sy'n ymwneud ag unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth, cyfraith achosion cysylltiedig ac arfer da.

 

Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/03/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 03/04/2019

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.