Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Mae gan y Cyngor ymrwymiad statudol i gytuno sail treth gyngor erbyn 31 Rhagfyr bob blwyddyn. Mae’r penderfyniad hwn wedi’i ddirprwyo i’r Cabinet.
(1) cymeradwyo cyfrifiad sail dreth y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2019/20;
(2) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2019/20 fydd 145,499;
(3) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn yr ardaloedd cymuned sy’n destun praesept fydd fel a ganlyn;
Llys-faen |
2,409 |
Pentyrch |
3,280 |
Radur |
3,783 |
Sain Ffagan |
1,423 |
Pentref Llaneirwg |
1,828 |
Tongwynlais |
817 |
y trefniadau ar gyfer talu praeseptau yn 2019/20 i Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i fod drwy randaliadau cyfartal ar ddiwrnod olaf pob mis o fis Ebrill 2019 hyd fis Mawrth 2020 a’r cynghorau Cymuned i fod drwy un taliad ar 1 Ebrill 2019, ac ar yr un sail a hwnnw a ddefnyddiwyd yn 2018/19 ac i’r awdurdodau praesepu gael eu hysbysu yn unol a hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 17/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2018 - Cabinet
Dogfennau Cefnogol: