Manylion y penderfyniad

Arena Dan Do - Camau Nesaf

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Outline the approach for the delivery of the Indoor Arena and to secure cabinet approval for the initial costs

Penderfyniad:

Ni chaiff Atodiadau 1-6 yr adroddiad hwn eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir fel y disgrifir ym mharagraffau 14 a 21 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    nodi cynnydd wrth sicrhau lleoliad dewis y Cyngor ar gyfer gweithredu’r project Arena Dan Do newydd.

 

2.   Cytuno y caiff costau diwydrwydd dyladwy’r Cyngor eu talu a derbyn y costau cyn datblygu yr aiff y Datblygwr a'r Tirfeddiannwr iddynt fel yr amcanir yn Atodiad Cyfrinachol 4 yn unol â’r cap ariannol a nodir hefyd yn Atodiad Cyfrinachol 4.

 

3.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Swyddog Adran 51 i drin pob agwedd ar gaffael cynghorwyr annibynnol fel y nodir yn Atodiad Cyfrinachol 4.

 

4.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, yr Aelod Cabinet dros Foderneiddio Cyllid a Pherfformiad a’r Swyddog Adran 151 i archwilio’r dull ariannol gorau o weithredu’r project a chyflwyno manylion yn ôl i'r Cabinet fel rhan o achos busnes yr arena a’r strategaeth darparu ym mis Mawrth 2019.

 

Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/11/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 29/11/2018

Dogfennau Cefnogol: