English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Strategaeth Digartrefedd Caerdydd 2018-2022

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Dan Adran 50 Deddf Tai (Cymru) 2014, mae’n rhaid i awdurdod tai lleol ymgymryd ag adolygiad digartrefedd i’w ardal, a chreu a mabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn seiliedig ar yr adolygiad hwnnw. Mae’n rhaid i’r Cyngor fabwysiadu strategaeth digartrefedd yn 2018 a strategaeth digartrefedd newydd pob pedair blynedd ar ôl hynny.

 

Cynhaliwydadolygiad o’r data sydd ar gael, yn archwilio’r prif achosion digartrefedd yng Nghaerdydd, yn canolbwyntio ar brif themâu atal, llety a chymorth.

 

Byddprif ganfyddiadau o’r adolygiad yn cael eu defnyddio i lywio’r Strategaeth Digartrefedd fydd yn defnyddio dull cydlynol o ran taclo ac atal y mater hwn. Bydd y Strategaeth yn adnabod y gwasanaethau sydd ar gael a sut gallent gael eu gwella i sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth a chefnogaeth priodol ac amserol.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.            cytuno ar Strategaeth Ddigartrefedd Caerdydd 2018-2022 fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad

 

2.            cytuno ar y newid arfaethedig i Gynllun Dyrannu Tai Caerdydd fel y nodwyd ym mharagraff 21 yr adroddiad.

 

Pobl yr ymgynghorir â hwy

Gofynnwyd am sylwadau gan sefydliadau partner yngl?n â’r gwasanaethau digartrefedd ac mae’r rhain wedi’u defnyddio’n rhan o’r adolygiad. Cynhaliwyd adolygiad cleientiaid i gael barn a phrofiadau’r defnyddwyr gwasanaeth.

 

Byddymgynghoriad anffurfiol ar y strategaeth yn digwydd ym mis Tachwedd unwaith y mae drafft llawn wedi dod i ben.

 

Dyddiad cyhoeddi: 13/12/2018

Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 29/12/2018

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.