Manylion y penderfyniad

Tendr am bolisiau Yswiiant y Cyngor, yn cynnwys trin hawliadau o 1 Ebrill 2019

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Diben yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i wahodd tendrau ar gyfer polisiau yswiriant y Cyngor gan gynnwys atebolrwydd, cerbydol, eiddo ac amrywiol.

Penderfyniad:

Mae Atodiad 1 a 2 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â darpariaethau Paragraff 12A Rhan 4 Paragraff 14 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

1.       awdurdodi dechrau’r tendr yswiriant a chytundebau trin hawliau am 5 mlynedd, neu 3 blynedd gydag opsiwn i ymestyn am 2 flynedd arall fel y nodir yn yr adroddiad

 

2.       cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso lefel uchel wedi’u nodi yn yr adroddiad

 

3.       bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i benderfynu ar bob agwedd ar y broses gaffael a delio â nhw yn gyffredinol (gan gynnwys ac nid yn gyfyngedig i’r dadansoddiad o’r meini prawf gwerthuso a chyhoeddi dogfennaeth) a materion ategol hyd at a chan gynnwys gwobrwyo’r contract i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/09/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 03/10/2018

Dogfennau Cefnogol: