Manylion y penderfyniad

Darparu Gwasanaethau Seibiant Byr Caerdydd yn Nhŷ Ty Storrie

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Yn dilyn adolygiad ar ddarpariaeth gwasanaethau Seibiant Byr yn Nh? Storrie’r Cyngor, mae gwerthusiad opsiynau wedi ei wneud er mwyn ystyried a fyddai darpariaeth gwasanaeth fewnol yn dod â chanlyniadau gwell.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   Cytuno mewn egwyddor ar drosglwyddiad arfaethedig y gwasanaethau Seibiant Byr i dîm mewnol y Cyngor, fel y nodwyd yng nghorff yr adroddiad, yn amodol ar ganlyniad ymgynghori pellach â rhanddeiliaid gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth; a

 

2.   Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant, i ddelio â’r holl faterion o bwys er mwyn gwireddu’r cynnig (gyhyd a bod y Gyfarwyddiaeth wedi ystyried canlyniad yr ymgynghori pellach y cyfeirir ato yn argymhelliad 1) gan gynnwys (heb gyfyngiad):-

 

 

(i) Cydgysylltu â’r darparwr presennol i gytuno ar ddyddiad cyfleus i bawb i ddwyn y trefniadau cytundebol presennol i ben ac i drosglwyddo darpariaeth y gwasanaeth Seibiant Byr i dîm mewnol y Cyngor;

(ii)   Mynd i’r afael â’r holl faterion cysylltiedig, gan gynnwys (heb gyfyngiad) gofrestru eiddo y T? Storrie a therfynu y trefniadau trwydded presennol.

Pobl yr ymgynghorir â hwy

Canfu sesiynau ymgynghori yn 2016/17 a 2018 farn rhai rhieni ar y gwasanaeth. Cynhelir ymgynghoriadau penodol gyda rhieni a phlant fel rhan o’r broses o wella a datblygu’r gwasanaeth. Ysgrifennir at rieni i roi gwybod iddynt bod y Cyngor yn ystyried opsiynau ar gyfer dyfodol T? Storrie.

 

Cyswllt: Sarah McGill, Corporate Director, People & Communities E-bost: s.mcgill@cardiff.gov.uk Tel: 0292087 2900.

Awdur yr adroddiad: Sarah McGill

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 26/07/2018

Dogfennau Cefnogol: