Manylion y penderfyniad

Strategaeth y Gyllideb 2019/20 a'r tymor canolig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Ystyried strategaeth gyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1) y cytunir ar egwyddorion y gyllideb y mae'r Adroddiad ar Strategaeth y Gyllideb yn seiliedig arnynt, a’r ymagwedd dargedig i fodloni’r Gofyniad i Leihau’r Gyllideb yn 2019/20 ac ar draws cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

(2)  Tra’n cydnabod y cytunir ar yr amcanion a osodwyd yn Uchelgais Prifddinas.

(3) bod cyfarwyddiaethau’n gweithio gyda’r Aelod Cabinet Portffolio perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad er mwyn nodi arbedion posibl er mwyn cynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyllideb o £34 miliwn ar gyfer 2019/20 a £91 miliwn yn ystod cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

(4) Y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i’w dirprwyo â’r awdurdod er mwyn rhoi unrhyw gynnig ar gyfer arbediad ar waith cyn 2019/20 lle nad oes angen am argymhelliad polisi neu lle mae penderfyniad polisi eisoes wedi ei wneud.

 

(5) Y Cyngor i ddangos i Gyd-bwyllgorau a chyrff sy’n codi praeseptau ac ardollau ar y Cyngor, lefel yr her ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, ac i hyn gael ei ystyried pan fyddont yn datblygu eu cynlluniau ariannol eu hunain ond gan barhau o fewn fframwaith yr amcanion a nodwyd yn Uchelgais Prifddinas.

 

(6)    dirprwyir awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i nodi gofyniad amgen i leihau'r gyllideb ar dderbyn eglurhad pellach o ran cyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

(7)     Dirprwyir yr awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i ddiwygio’r Strategaeth Gyllideb, os na fydd y diwygiad hwn yn sylweddol wahanol i’r egwyddorion sylfaenol.   

(8)         Byddai unrhyw ofyniad i wyro yn sylweddol oddi wrth yr egwyddorion hyn yn gofyn am Adroddiad Strategaeth Gyllidebol i’r Cabinet. 

(9)          Y Cyngor i geisio datganiadau o ddiddordeb gan swyddogion mewn perthynas â'r cynllun dileu swyddi gwirfoddol erbyn 14 Medi 2018..

 

(10)       Argymell i’r Cyngor i gytuno i fabwysiadu y Fframwaith Amserlen Cyllidebol a osodir yn Atodlen 2 ac y caiff y gwaith a amlinellir ei symud ymlaen gyda'r nod o fwydo paratoadau ar gyfer y gyllideb.

 

(11)       y bydd proses dau gam mewn perthynas ag ymgynghoriad ar gynigion 2019/20.

 Bydd hyn yn dechrau gydag Arolwg Holi Caerdydd yn cynnwys adran ar themâu cyllidebol cyffredinol, wedi’u dilyn gan ymgynghoriad mwy manwl ar gynigion 2019/20 yn hwyrach yn yr Hydref, unwaith y bydd rhagor o eglurder ar y sefyllfa o ran sefyllfa cyllido 2019/20.

Cyswllt: Prif Weithredwr.

Awdur yr adroddiad: Prif Weithredwr

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 26/07/2018

Dogfennau Cefnogol: