Manylion y penderfyniad

Cynnig 2

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Dywedodd yr Arglwydd Faer fod hysbysiad o gynnig, wedi’i gynnig gan y Cynghorydd Wood a’i gefnogi gan y Cynghorydd Sandrey, wedi'i dderbyn i’w ystyried a’i gynnwys yn y Gwysion ar gyfer y cyfarfod.  Roedd y cynnig yn debyg iawn i Gynnig 1 oedd wedi'i ddadlau'n gynharach. 

Rhoddodd yr Arglwydd Faer gyfle i’r Cynghorydd Wood gyflwyno’r cynnig fel a ganlyn:

 

Mae Cyngor Caerdydd yn nodi bod:

 

·         Mae plastigion defnydd untro’n creu gwastraff diangen sy’n cael effaith andwyol ar ein cymunedau a’r amgylchedd.

·          Cynhyrchir tua 400 miliwn o dunelli o blastigion ledled y byd bob blwyddyn y bwriedir i 40% ohonynt fod yn ddefnydd untro [1].

·         Mae dros 8 miliwn o dunelli o blastigion yn cyrraedd cefnforoedd y byd bob blwyddyn, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o’r tir [2].

·         Ni all plastigau fel polystyren gael eu hailgylchu.

·         Mae cwpanau coffi papur yn aml yn cynnwys polyethylen sy'n ei wneud yn anodd eu hailgylchu.

·         Mae ailddefnyddio’n well nag ailgylchu neu waredu gan ei fod angen llai o ynni.

·         Mae busnesau bach ar draws De Cymru’n cymryd camau rhagweithiol i annog defnyddwyr i ddefnyddio llai o blastigion [3].

·         Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd yn arwain y ffordd drwy ‘Ymgyrch Di-wellt’ [4].

 

Rydym yn galw ar Gyngor Caerdydd i wneud y canlynol:

 

·         Dirwyn yr holl blastigau defnydd untro i ben, gan gynnwys cwpanau, caeadau, poteli plastig, cardfwrdd sydd wedi’u leinio â phlastig, a hynny ar gyfer yr holl blastigau defnydd untro yn holl eiddo Cyngor Caerdydd erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018-19.

·          Sicrhau bod yr holl sefydliadau sy’n derbyn cyllid gan y Cyngor yn ymrwymo i arferion cynaliadwy a’u bod yn cael eu hannog i ddechrau’r broses raddol o beidio â defnyddio pob eitem blastig defnydd untro.

·         Annog pob busnes mae’r Cyngor yn gweithio gydag ef i hyrwyddo proses raddol o beidio â defnyddio cynnyrch tebyg yn eu hamgylcheddau busnes, trwy ddulliau caffael a rhwydweithiau eraill.

·         Darparu cwpanau a llestri y gellir eu hail-ddefnyddio yn ôl yr angen a rhoi camau ar waith i lanhau'r eitemau hynny. 

·         Cefnogi cynlluniau i gyflwyno’r ffynhonnau d?r a safleoedd adlenwi.

·         Ymchwilio i gynllun dychwelyd â blaendal ar gyfer Caerdydd.

 

1. Geyer R, Jambeck JR, Law KL. Production, use, and fate of all Plastics ever made. Sci Adv. 2017;3(7).

2. “BBC to ban single-use plastics by 2020 after Blue Planet II”. http://www.bbc.co.uk/news/uk-43051153

3. “Momentum builds in small businesses to curb plastic use”.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-42832201

4. “Students spearhead anti-plastic movement in Cardiff”.

http://www.jomec.co.uk/intercardiff/environment/students-spearhead-anti-plastic-movement-in-cardiff.

 

Cafodd y Cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Sandrey. 

 

Rhoddodd yr Arglwydd Faer wybod y byddai’r Cynnig yn mynd yn syth i bleidlais heb ddadl. 

 

COLLWYD y bleidlais ar y Cynnig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2018 - Cyngor