Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2018, awdurdododd y Cabinet i Swyddogion fwrw ymlaen ag ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ehangu ac ail-alinio lleoedd ysgolion arbennig a lleoedd canolfan adnoddau arbenigol.
Mae’r adroddiad yn crynhoi’r farn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD:
1. y dylid cyflwyno hysbysiadau statudol ar gyfer y cynlluniau canlynol:
a) Ehangu capasiti T? Gwyn i gynnig hyd at 198 o leoedd.
Addasu rhan o adeilad Canolfan Ieuenctid Trelái i gynnig tair ystafell ddosbarth newydd ar gyfer Ysgol Ty Gwyn ac i gysylltu adeiladau’r ysgol a’r ganolfan ieuenctid.
b) Ymestyn ystod oedran Greenhill o 11-16 i 11-19 a chynyddu capasiti’r ysgol i fod â lle ar gyfer 64 o leoedd.
Addasu t?’r gofalwr ar y safle i gynnig llety.
c) Newid math yr angen addysgol arbennig yn Ysgol Meadowbank o: ‘anghenion iaith llafaredd a chyfathrebu’, a: ‘anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu ac anableddau dysgu cymhleth’
Addasu’r adeilad i wella hygyrchedd anabledd.
d) Cau’n raddol y CAA yn Ysgol Allensbank, gan gau’r dosbarth yn gyfan gwbl ym mis Gorffennaf 2020, neu pan fydd yr holl ddisgyblion presennol wedi cwblhau’r lleoliad cynradd os yw’n gynt na hynny.
Agor dosbarth ymyrraeth gynnar ag 8 lle i blant ag anghenion iaith a lleferydd yn Ysgol Allensbank, gan dderbyn y cohort cyntaf ym mis Medi 2019.
e) Yn amodol ar benderfyniad Corff Llywodraethu Ysgol y Santes Fair, i fwrw ymlaen â'r hysbysiad statudol: cymeradwyo cynnwys llety CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeilad newydd yn Ysgol y Santes Fair.
f) Agor canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Pwll Coch, gan gynnig hyd at 10 o leoedd i ddechrau, ond gyda sgôp i ehangu i 20 o leoedd yn y dyfodol, wrth i’r galw gynyddu.
g) Ehangu nifer y lleoedd yn CAA Ysgol Glantaf i 30 o leoedd.
Addasu a gwella’r llety i fod yn addas ar gyfer y niferoedd cynyddol.
2. Nodir cyn gweithredu’r cynigion bydd angen cyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet yn nodi manylion unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir, yr ymatebion arfaethedig i'r gwrthwynebiadau hynny ac argymhellion ar gyfer gweithredu neu beidio â gweithredu’r cynigion hynny.
Rhesymau eraill / sefydliadau a ymgynghorwyd
Roedd ystod o randdeiliaid yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig gan gynnwys Aelodau, ysgolion, rhieni, disgyblion.
Pobl yr ymgynghorir รข hwy
A range of stakeholders including Members, schools, parents, pupils were consulted as part of the public consultation on the proposal.
Dyddiad cyhoeddi: 19/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 19/04/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/04/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 02/05/2018
Dogfennau Cefnogol: