Manylion y penderfyniad

Caerdydd Dwyieithog - Cyngor Dwyieithog: Hyrwyddo a Defnyddio Cymraeg yn y Cyngor

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ddyletswydd statudol i ddatblygu a chyhoeddi polisi ar ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol at ddibenion hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith.

 

Daw’r polisi hwn ag arferion, polisïau ac adnoddau ynghyd o ran hyfforddiant Cymraeg, Safonau’r Gymraeg a’n dull corfforaethol o ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.Drwy’r polisi hwn, byddwn yn gweithio tuag at fod yn sefydliad cynyddol ddwyieithog lle caiff y ddwy iaith eu gwerthfawrogi a’u defnyddio’n naturiol, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod y polisi ar hyrwyddo a defnyddio Cymraeg yn y Cyngor (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gymeradwyo yn unol â Safonau'r Gymraeg (Mesur y Gymraeg) (Cymru) 2011).

Dyddiad cyhoeddi: 14/06/2018

Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/06/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 27/06/2018

Dogfennau Cefnogol: