Manylion y penderfyniad

Rheoli 'r Ystâd Eiddo Heblaw Tai'r Cyngor - Cofleidio Model Landlord Corfforaethol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

1.            Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu’n llawn ac i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer y Model Cyflawni Landlord Corfforaethol newydd.

 

2.            Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi’r camau sy'n weddill ar waith i gwrdd ag argymhellion yr Adolygiad Strategol Annibynnol o'r Ymrwymiadau Statudol ac Iechyd a Diogelwch.

3.                    

4.            Adolygu’r dull o ran Asedau Cymunedol

 

5.            Argymell yr egwyddorion ar gyfer cyflawni'r rhaglen derbynebau cyfalaf wedi’i ehangu i gefnogi’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a chyflawni’r Cyfalaf ehangach am y 5 mlynedd nesaf.

 

6.            Sicrhau bod gan y Cyngor gynlluniau gwella ac adnoddau wrth gefn ar waith i greu’r Model Landlord Corfforaethol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: fod

 

1.   argymhellion Adroddiad Gr?p Gorchwyl a Gorffen Adolygu Polisi a Pherfformiad (PRAP) a Chraffu a atodir fel Atodiad F i’r adroddiad i gael ei dderbyn, ac eithrio Argymhelliad 6 a gaiff ei dderbyn yn rhannol fel yr eglurir yn yr adroddiad.

 

2.   bod argymhellion yr adolygiad annibynnol ar Ymrwymiadau Statudol a chydymffurfiaeth iechyd a diogelwch fel a nodwyd yn Atodiad 2 a 3 i’r adroddiad a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r prif argymhellion, yn cael eu nodi

 

3.   cymeradwyo’r strategaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad er mwyn dechrau nodi’r gwarediadau a’r ildiadau er mwyn creu’r derbyniadau cyfalaf sydd eu hangen i ateb gofynion y Cynllun Ariannol Tymor Canolig

 

4.   Cytuno ar y cynigion a wneir yn yr adroddiad hwn i alluogi’r model Landlord Corfforaethol i gael ei roi ar waith yn llawn, gan gynnwys:

 

a)    Rholiadau mwy caeth dros yr holl wariant yn ymwneud ag adeiladau

 

b)    Cyflawni’r holl brojectau adeiladu newydd trwy ddwylo’r tîm Landlord Corfforaethol yn y Gyfarwyddiaeth Ddatblygu Economaidd.

 

c)    Gofyniad i Oblygiadau Eiddo gael eu cynnwys ym mhob Adroddiad Cabinet ac Adroddiadau Penderfyniadau Swyddogion lle ceir effaith ar dir ac adeiladau o eiddo’r Cyngor.

 

(5)       Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i adolygu y trefniadau uwch reolwyr newydd yn y Gyfarwyddiaeth Ddatblygu Economaidd, gan gynnwys os oes angen ddileu swydd wag y Cyfarwyddwr Cynorthwyol. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 26/07/2018

Dogfennau Cefnogol: