Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
(Datganodd Uwch Reolwyr a effeithir gan yr eitem hon ddatganiad ariannol a gadawon nhw’r cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried).
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Weaver y Datganiad Polisi blynyddol ar gyfer 2018/19 a baratowyd yn unol â gofynion Deddf Lleoliaeth 2011. Bydd y Cyngor, yn unol â’i ymrwymiad i degwch a thryloywder yn cyhoeddi’r adroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhan o’r Datganiad Polisi Cyflog erbyn 31 Mawrth 2018.
Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau, eilio’r adroddiad.
Agorodd yr Arglwydd Faer y llawr er trafodaeth. Roedd yr aelodau’n falch o weld cyhoeddiad y wybodaeth ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau er ei bod hi’n amlwg o’r wybodaeth bod ffordd i fynd eto. Cyflwynwyd sylwadau ynghylch y dyfarniad cyflog; pensiynau a’r buddion pensiwn, y cysylltiadau rhwng addysg a chyflogaeth.
Yn ystod y ddadl, gwnaeth y Cynghorydd Williams gyflwyno Cynnig heb Rybudd dan RGC25 (iv) i gyfeirio'r adroddiad yn ôl i'r Cabinet. Cafodd y gohiriad ei eilio gan y Cynghorydd Davies.
Rhoddodd yr Arglwydd Faer gyfle i'r Aelod Cabinet grynhoi cyn galw pleidlais ar y diwygiad.
COLLWYD y bleidlais ar y gohirio.
PENDERFYNWYD –
1. cymeradwyo’r Datganiad Polisi Cyflog 2018/19;
2. bod cyfraniadau pensiwn y cyflogwr wedi’u cynnwys yng nghyfrifiad tâl wythnosol cyflogai, lle bo’n briodol;
3. y bydd angen i’r Cyngor gymryd camau i weithredu newidiadau sy’n dod o’r NJC ar gyfer Tâl Llywodraeth Lleol ar gyfer 2018/20;
4. croesawu cynnwys yr adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau;
5. ymrwymo wrth egwyddorion a chanllawiau ar y defnydd priodol o drefniadau oriau na sicrheir yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, fel y datblygwyd gan Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn partneriaeth gymdeithasol â Chyngor Partneriaeth Llywodraeth Cymru a’i grwpiau sector.
Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2018 - Cyngor
Dogfennau Cefnogol: