Manylion y penderfyniad

Cynllun Llesiant Lleol Caerdydd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas y Cynllun Llesiant Lleol er cymeradwyaeth y Cyngor. Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd ei fod yn siomedig nad oedd y Cynllun Corfforaethol, oedd yn rhan hanfodol o'r fframwaith polisi oedd ochr yn ochr â'r ddogfen bwysig hon, wedi'i gymeradwy, ac y byddai'r oedi'n effeithio ar weithredu'r Cynllun Llesiant.  Roedd y Cynllun Llesiant wedi’i baratoi ar y cyd â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac roedd yn ymdrin â materion cymhleth yngl?n â iechyd a llesiant dinasyddion Caerdydd yr oedd y diwygiad blaenorol a’r diwygiad i’r adroddiad hwn yn ymwneud â nhw. 

 

Roedd y Cynllun Llesiant yn ddogfen ddatblygedig oedd yn adeiladu ar y sail dystiolaeth a nodwyd yn yr Asesiad Llesiant cynhwysfawr, ac roedd yn rhoi llwyfan i bartneriaid i ymateb ar y cyd ar faterion yn ymwneud ag amddiffyn pobl sy'n agored i niwed; helpu pobl ddigartref; cefnogi pobl h?n i fod yn hapus ac iach yn eu cymunedau eu hunain a thaclo materion megis radicaleiddio.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol eilio’r Cynllun, gan dynnu sylw at yr heriau a'r trefniadau partneriaeth; gan weithio gyda'r Gweinidogion a Llywodraeth Cymru, torri lawr y rhwystrau a chyflawni materion cymhleth.  Soniodd am y pwysigrwydd o newid graddol ar lefel gymunedol gan uno gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion; gwasanaethau iechyd a chyhoeddus i gefnogi teuluoedd ac i daclo materion yn gynnar.  Roedd yr aliniad rhwng y Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Llesiant a’r Cynllun Ardal yn hanfodol bwysig o ran darparu’r fframwaith strategol rhwng gwasanaethau cymunedol a chyhoeddus y ddinas, ac o ran cyflawni Uchelgais Prifddinas. 

 

Dywedodd yr Arglwydd Faer fod diwygiad i’r adroddiad yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 24a.  Rhoddodd yr Arglwydd Faer gyfle i’r Cynghorydd Berman gynnig y diwygiad.

 

Roedd y diwygiad yn galw i’r argymhelliad ohirio ystyriaeth o’r Cynllun Llesiant tan cyfarfod y Cyngor yn y dyfodol, i alluogi Asesiad o’r Effaith ar Iechyd cyn ei gymeradwyo, gan geisio sicrhau cynllun gwell, ystyried canlyniadau anfwriadol ac i fodloni gofynion Deddf Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru. 

 

Cafodd y diwygiad ei eilio gan y Cynghorydd Boyle, wnaeth atgoffa'r Cyngor am ddull cyson ei gr?p ef i hyrwyddo anghydraddoldeb iechyd fel blaenoriaeth, fyddai'n parhau i weithio i sicrhau bod y Cynllun yn addas at y diben.

 

Agorodd yr Arglwydd Faer y llawr ar gyfer dadl a chyflwynwyd sylwadau mewn perthynas ag iechyd a’r teulu; llesiant pobl ifanc a phlant; yr angen i sicrhau bod gwasanaethau ar gael ar lefel leol; camau ac ymgynghori ar y cynllun drafft a’r saith amcan llesiant.  Trafodwyd pryderon ynghylch diffyg democratiaeth o ran aelodaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, gyda dim ond un gwleidydd yn rhan o’r Bwrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dianne Rees heb gynnig RhGC 25(iv) i gyfeirio'r Cynllun yn ôl i'r Cabinet, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Robson.

 

Rhoddodd yr Arglwydd Faer gyfle i’r Arweinydd i ymateb.  Ymatebodd yr Arweinydd i faterion a drafodwyd mewn perthynas â llesiant plant, a chymorth gan bartneriaid gan gynnwys y Byrddau Gwasanaeth Iechyd a Chyhoeddus Lleol. Nododd yr Arweinydd mewn perthynas â’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, roedd cynnig i beilota’r rhain yn y dyfodol.

 

Galwodd yr Arglwydd Faer am bleidlais ar y diwygiad fel y cyflwynodd y Cynghorydd Berman ef.

 

COLLWYD y bleidlais ar y diwygiad.

 

Galwodd yr Arglwydd Faer am bleidlais ar y gohirio a gynigwyd gan y Cynghorydd Dianne Rees.

 

COLLWYD y bleidlais ar y gohirio.

 

Galwodd yr Arglwydd Faer am bleidlais ar yr argymhelliad. 

 

PASIODD y bleidlais ar yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD – Cymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol Caerdydd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2018 - Cyngor

Dogfennau Cefnogol: