Manylion y penderfyniad

Estyniad i Gontractau yn ymwneud â'r gwasanaeth Cymorth Byw i Oedolion ag Anabledd Dysgu

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Gwnaeth y Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd ar y mater hwn i'r Cabinet ar 2 Ebrill 2015. Roedd yr adroddiad yn awdurdodi'r broses gaffael ac yn awdurdodi dyfarnu contractau ar gyfer 3+2 blynedd.Dyfarnwyd y Contractau ar 1.8.2015 ar 31 Gorffennaf 2018, mae’r Gyfarwyddiaeth yn ceisio awdurdodiad i ehangu am gyfnod hirach neu gyfnodau heb fod yn fwy na dwy flynedd os yw'r contract yn dod i ben cyn 31 Gorffennaf 2020. Mae'r gwasanaeth wedi'i gomisiynu ar gyfer Gwasanaeth Byw â Chymorth Anableddau Dysgu Oedolion (SLS) i sicrhau’r gwasanaeth a model o gymorth o uchafu dewis a rheolaeth i ddinasyddion.

Penderfyniad:

Mae Atodiad 2 wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERYNWYD: cymeradwyo'r amrywiad i gontractau cyfredol ar gyfer darparu Gwasanaethau Byw â Chymorth i oedolion sydd ag anabledd dysgu trwy (i) ymestyn y contract gan 8 mis o 1 Awst 2018 a (ii) yn amodol ar gadarnhau cyllid, ymestyniad o 7 mis pellach hyd at 31 Hydref 2019.

 

Rhesymau eraill / sefydliadau a ymgynghorwyd

Mae digwyddiadau ymgynghori a gweithgareddau wedi’u cynnal gyda chynrychiolwyr gan bob rhanddeiliad gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, darparwyr, rhieni/gofalwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 18/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 17/05/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/05/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 31/05/2018

Dogfennau Cefnogol: