Manylion y penderfyniad

Rhaglen Band B Cyngor Caerdydd yr 21ain ganrif: Capasiti a Llywodraethu.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Yn y cyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017, cadarnhaodd y Cabinet y cynlluniau blaenoriaeth i’w cyflwyno yng Nghaerdydd o dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Cytunwyd cyflwyno adroddiad dilynol am yr agweddau hyn ar gyflwyno, er mwyn rhoi sicrwydd bod gan y Cyngor ddigon o adnoddau a gallu llywodraethu priodol i gyflwyno rhaglen sylweddol o’r fath.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   i nodi’r diweddariad yn yr adroddiad hwn ar faterion amserlennu a chyllido yn gysylltiedig a chyflawni cynlluniau Band B Caerdydd

 

2.   Cymeradwyo creu swydd Cyfarwyddwr Rhaglen – Trefniadaeth Ysgolion ar Tier 2, tymor penodedig o 3 blynedd yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Addysg, yn unol â strwythur cyflog y Cyngor ar lefel Cyfarwyddwr Cynorthwyol

 

3.   nodi y bydd Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes yn  adolygu swyddi a strwythur y tîm trefniadaeth ysgolion er mwyn sicrhau y capasiti sydd ei angen fel a nodwyd yn yr adroddiad allanol a enwir yn Atodiad 1, o fewn y cyllid sydd eisoes wedi ei gytuno dan Raglen Band B Ysgolion y G21, Adnewyddu Asedau a’r CDLl.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 26/07/2018

Dogfennau Cefnogol: