Manylion y penderfyniad

Cynnig 2

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Dywedodd yr Arglwydd Faer fod hysbysiad o gynnig, wedi’i gynnig gan y Cynghorydd McEvoy a’i gefnogi gan y Cynghorydd Keith Parry, wedi'i dderbyn i’w ystyried a’i gynnwys yn y Gwysion ar gyfer y cyfarfod. Nid oedd unrhyw ddiwygiadau i’r cynnig.

 

Roedd yr Hysbysiad o Gynnig fel a ganlyn:

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r cynnig i ddympio 300,000 tunnell o fwd o'r tu allan i Orsaf B?er Niwclear Hinkley Point yn nyfroedd Caerdydd.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i nodi'r Egwyddor Ragofalus a nodir yn Erthygl 191 y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.   Nod yr egwyddor yw sicrhau lefelau diogelu'r amgylchedd uwch drwy wneud penderfyniadau ataliol pan fo’r rheiny’n peri risg.  Hynny yw, gwell rhwystro clwy' na'i wella, a elwir hefyd yr 'egwyddor ataliol'.

 

O ystyried nad yw'r dogn o ymbelydredd posibl yn y deunydd Hinkley Point sy’n is na 5cm  wedi’i fesur a hefyd mai dim ond 5 sampl at ddyfnderoedd o dan 5cm sydd ar gael, mae’r Cyngor hwn o’r farn er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, y bydd y Cyngor yn talu am ddadansoddiad trylwyr ac annibynnol o'r mwd dan sylw, mewn ymgynghoriad â CEFAS a'r ymgyrchwyr y tu ôl i'r ddeiseb y bwriedir ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gwahoddodd yr Arglwydd Faer drafodaeth ar y cynnig.  Ar ddiwedd y drafodaeth gwahoddodd yr Arglwydd Faer y Cynghorydd McEvoy i grynhoi.

 

Galwodd yr Arglwydd Faer am bleidlais ar y cynnig fel y cyflwynodd y Cynghorydd McEvoy ef.  GWRTHODWYD y cynnig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2018 - Cyngor

Dogfennau Cefnogol: