Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd argymhellion Pwyllgor y Cyfansoddiad ar newidiadau i Reolau Gweithdrefnol y Cyngor a Rheolau Gweithdrefnol Craffu mewn perthynas â’r weithdrefn galw i mewn er cymeradwyaeth y Cyngor.
Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, y Cynghorydd Goodway, yr adroddiad gan gynnig yr argymhellion, a chafodd y rhain eu heilio gan y Cynghorydd McKerlich.
Dros y 3 cyfarfod diwethaf a gafodd Pwyllgor y Cyfansoddiad gydag Arweinydd Grwpiau Pleidiau a Chwipiau, ystyriwyd ffyrdd i wella arwyddocâd cyfarfodydd a sut i wneud cyfarfodydd y Cyngor Llawn yn fwy ystyrlon; rhoi amser i drafodaethau ar faterion polisi ar ffurf Papurau Gwyrdd, gan greu platfform gwell i aelodau anweithredol gyfrannu at ddatblygu polisïau, a chynyddu cyfraniadau meinciau ôl mewn trafodaethau. Yn yr un modd, roedd gwneud defnydd gwell o’r amser a oedd ar gael yn bwysig, ynghyd â gwneud y defnydd gorau o adnoddau'r cyngor.
Cafodd y cyfarfod glywed am yr ymrwymiad o ran adolygu Rheolau Gweithdrefnol y Cyngor i sicrhau bod busnes y Cyngor yn effeithiol.
PENDERFYNWYD –
1. cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i Reolau Gweithdrefnol Cyfarfodydd y Cyngor, fel y nodir yn Atodiad B yn unol ag argymhelliad Pwyllgor y Cyfansoddiad fyddai'n weithredol o Gyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai 2018;
2. cymeradwyo argymhelliad Pwyllgor y Cyfansoddiad i newid Rheolau Gweithdrefnol Craffu, fel y nodwyd yn Atodiad C;
3. gofyn i’r Swyddog Monitro roi’r diweddariadau i'r Cyfansoddiad ar waith.
Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2018 - Cyngor
Dogfennau Cefnogol: