Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
CWESTIWN YSGRIFENEDIG I’R AELOD CABINET STRYDOEDD GLÂN, AILGYLCHU A’R AMGYLCHEDD
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd
Sandrey
Mae wedi’i awgrymu y gallai ffynhonnau d?r yfed cyhoeddus fod yn ffordd o leihau defnydd d?r mewn poteli plastig. Yw Cyngor Caerdydd wedi ymchwilio i'r posibilrwydd o hyn? Mae Hull a Bryste wedi gosod rhai’n ddiweddar.
Ateb gan Y Cynghorydd
Michael
Mae hyn yn rhywbeth yr ydym
yn ymchwilio, yn benodol mewn perthynas â’r ffordd y
gallwn annog pobl i ail-lenwi ac ail-ddefnyddio poteli d?r plastig
neu gynwysyddion diod eraill er mwyn lleihau nifer y gwastraff
plastig a gynhyrchir yma yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, does dim
cynlluniau ar hyn o bryd i gefnogi’r ddarpariaeth eang o
ffynonellau d?r yfed cyhoeddus yn y ddinas.
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Sandrey
Dyn o’r enw Brian Harper yw dyfeisydd lamp stryd cyntaf y DU fydd yn cael ei bweru gan faw c?n. Cafodd ei gynnwys yn y Guardian ar 1 Ionawr gan ddweud ei fod yn bwriadu ennill diddordeb parciau trefol yn y dechnoleg. Yw hyn yn rhywbeth y gallai Cyngor Caerdydd fynegi diddordeb mewn?
Ateb gan Y Cynghorydd
Michael
Na.
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Boyle
Ydych
chi’n fodlon ar fanylder a chanfyddiadau’r adroddiadau
ecoleg a gynhyrchwyd yn rhan o gais cynllunio CNC i Gynllun
Llifogydd y Rhath?
Ateb
gan y Cynghorydd Michael
Cafodd yr adroddiadau ecoleg eu hystyried gan swyddogion fel rhai trylwyr a chywir i alluogi penderfyniad gwybodus am y cais gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Ebrill 2016 pan roeddwn i’n cadeirio.
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Berman
Yw’r Cyngor yn fodlon
bod y gwaith a gynhelir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhan o
Gynllun Llifogydd Nant y Rhath yn gyfatebol â lefel
cydnabyddedig y risg llifogydd i eiddo yn yr ardal, bod CNC wedi
asesu pob opsiwn sydd ar gael ar gyfer lleddfu'r perygl llifogydd
amlwg a bod CNC wedi pennu'n briodol y dull gorau, gan gynnwys wrth
ystyried effaith yr amgylchedd lleol?
Ateb gan y Cynghorydd
Michael
Cafodd y cais cynllunio ar gyfer y cynllun llifogydd ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor ym mis Ebrill 2016 ac roedd y cynllun yn amodol ar graffu technegol perthnasol ac asesiad gan swyddogion y cyngor ar yr adeg. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r corff rheoleiddio cymwys sy’n gyfrifol am reoli peryglon llifogydd o brif afonydd yng Nghymru. Mae’r Cyngor yn ystyried bod CNC wedi asesu’n ddigonol yr opsiynau sydd ar gael i leddfu effaith yr amgylchedd leol o bersbectif perygl llifogydd.
CWESTIWN YSGRIFENEDIG I’R AELOD CABINET DIWYLLIANT A HAMDDEN
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Carter
Faint o arian gafodd ei godi
o ganlyniad i werthu'r ganolfan addysg Dome ym Mhentwyn a faint
gafodd ei fuddsoddi i Ganolfan Hamdden Pentwyn?
Ateb gan y Cynghorydd
Bradbury
Gwnaeth gwaredu safle Canolfan Gymunedol Dome gynt yn 2015 wireddu derbynneb cyfalaf o £460,000, a gafodd ei glustnodi i’w fuddsoddi mewn cyfleusterau lleol gwell ym Mhentwyn, gan gynnwys y ganolfan hamdden. Cafodd £161,000 ei wario ar hygyrchedd a gwaith mewnol yn y ganolfan hamdden, oedd yn cynnwys gosod drysau awtomataidd, diwygiadau asesiad risg tân, trosi ystafell newid yn ystafell gymunedol a throsi storfa yn ystafell cymorth cyntaf. Yn ogystal, cafodd £123,000 ei wario ar ddisodli teils yn y pwll nofio.
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Berman
Yn ystod cyfarfod olaf y
cyngor llawn, gofynnais pe byddech chi’n edrych eto ar y coed
yng Ngerddi Nant y Rhath a Gerddi Melin y Rhath y mae Cyngor
Caerdydd wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu torri ar yr
un pryd â gweithredu cam nesaf y Cynllun Llifogydd Nant y
Rhath, er nad oes angen torri'r coed hyn i hwyluso'r gwaith cynllun
llifogydd. Rwy’n deall bod tair coeden yn y categori (gyda
phump arall o goed wedi’u torri yn ystod cam cyntaf y cynllun
hwn). Allwch chi roi gwybodaeth i Aelodau yngl?n â pha
ail-ystyried, os oes peth, sydd wedi digwydd a beth oedd y
canlyniad?
Ateb gan y Cynghorydd Bradbury
Trafodais y mater hwn gyda
swyddogion yn dilyn cyfarfod y Cyngor ym mis Tachwedd a gwnaethant
adolygu’r sefyllfa ynghylch y tair coeden dan sylw. Maent
wedi dod i’r casgliad bod y penderfyniad gwreiddiol i’w
torri nhw ar sail diogelwch o ystyried eu cyflwr gwael yn briodol
ac, ar y sail hon, dylid parhau â hyn. Y sefyllfa yw, os na
chaiff y coed penodol hyn eu torri’n rhan o’r gwaith
cynllun rheoli risgiau llifogydd, bydd angen i'r Cyngor ddilyn
amserlen eithaf byr a chynnal y gwaith ei hun.
CWESTIWN YSGRIFENEDIG I'R AELOD CABINET ADDYSG, CYFLOGAETH A SGILIAU
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd De’Ath
Mae nifer o ysgolion cynradd
yn y ddinas wedi cyfrannu at fenter Operation Christmas Child (OCC)
a redir gan gr?p yn seiliedig yn yr UDA, Samaritans Purse, lle mae
rhoddion yn cael eu casglu mewn bocsys esgidiau ac yn cael eu
hanfon at blant mewn sefyllfaoedd anodd tramor. Ar ôl cael eu
casglu gan y gr?p, bydd bob bocs esgidiau'n cynnwys llenyddiaeth
grefyddol, ynghyd â'r rhoddion, sydd â'r nod o drosi'r
derbynnydd i Gristnogaeth efengylaidd. Mae’r weithred hon
wedi denu beirniadaeth am geisio trosi pobl ifanc sy’n agored
i niwed at ffydd gwahanol – gyda gwefan OCC yn cynnwys
astudiaeth achos o blentyn Affricanaidd a “arweiniodd ei
theulu Moslemaidd at Grist” ar ôl derbyn bocs esgidiau
OCC.
Pa ganllawiau sydd wedi’u rhoi i ysgolion ynghylch cyfrannu at OCC ac a fydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod pob rhiant a gofalwr mewn ysgolion sydd yn cyfrannu'n hollol ymwybodol o ystyr OCC?
Ateb gan y Cynghorydd
Merry
Rwy’n ymwybodol
o’r pryderon sydd wedi’u mynegi mewn perthynas ag
Operation Christmas Child a gallaf gadarnhau bod y mater hwn am
gael ei drafod fis nesaf mewn cyfarfod Cyngor Ymgynghorol Sefydlog
ar Addysg Grefyddol Caerdydd (SACRE).
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Berman
Pa amserlen ydych
chi’n disgwyl o ran bwrw ymlaen â’r cynigion a
gyhoeddwyd yn ddiweddar, yr ydym yn falch iawn o weld, ar gyfer
ehangu Ysgol Uwchradd Caerdydd ac, o ystyried y bydd yr ehangiad
hwn yn cymryd ychydig o amser a fyddech yn ystyried cynnal unrhyw
ddarpariaeth dros dro i gynyddu capasiti fel y gall mwy o
ddisgyblion sy’n byw yn nalgylch yr ysgol sicrhau lle yn yr
ysgol yn y cyfnod wedyn?
Ateb gan y Cynghorydd
Merry
Fel y’i nodwyd yn yr adroddiad ar flaenoriaethau Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, a ystyriwyd gan y Cabinet ar 14 Rhagfyr 2017, mae ein cyflwyniad Band B yn ceisio mynd ar ôl y materion digonolrwydd a chyflwr mwyaf difrifol yng Nghaerdydd. Bydd unrhyw broject i gynyddu maint sefydliad ysgol, newid ei ffurfweddiad neu ei lleoliad yn gofyn am ymgynghoriad statudol a phenderfyniad Cabinet. Bydd yr ymgynghoriad statudol yn nodi’r cynigion manwl a’r lleoliad arfaethedig ar gyfer pob cynllun yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion 2013. Disgwylir y bydd unrhyw ymgynghoriad statudol ar y materion yn yr adroddiad ar Fand B yn dechrau'n rhannol o Gwanwyn 2018, ar ôl cael cadarnhad am sefyllfa gyllidebol y Cyngor, gan y bydd hyn yn llywio'r arian cyfatebol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen am y flwyddyn i ddod.
Yn yr un modd, dylid nodi
oherwydd graddfa a nifer y projectau arfaethedig yn rhaglen
fuddsoddi Band B, bydd cyflawni cynlluniau hefyd yn digwydd yn
rhannol dros amserlen y rhaglen yn dechrau yn 2019. O ganlyniad i
hyn, efallai y bydd gofyn rhoi mesurau dros dro ar waith pan fo
materion digonolrwydd yn bresennol, a phan nad oes unrhyw opsiynau
amgen lleol eraill ar gael.
Cydnabyddir mai Ysgol
Uwchradd Caerdydd yw dewis cyntaf rhieni ar gyfer addysg uwchradd
eu plentyn/plant. Fodd bynnag, mae dal lleoedd addysg uwchradd
cyfrwng Saesneg digonol yn yr ardal leol, gan gynnwys mewn
dalgylchoedd cyfagos, sy'n gallu ateb y galw ac mae'r Awdurdod
Lleol yn dal yn gallu cynnig lleoedd.
CWESTIWN YSGRIFENEDIG I’R AELOD CABINET CYLLID,
MODERNEIDDIO A PHERFFORMIAD
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Berman
O ystyried bod adroddiad
monitro’r gyllideb mwyaf diweddar y Cyngor yn dangos bod
disgwyl i gyllidebau’r gyfarwyddiaeth gael eu gorwario gan
£4.956 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol; bod
diffyg o £1.954 miliwn yn ddisgwyliedig o ran cyflawni
arbedion a gytunwyd o fewn y gyllideb ar gyfer 2017-18; bod y
Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad wedi mynegi pryder am
gynigion arbedion afrealistig; a bod sefyllfa gytbwys ond yn
debygol o gael ei chyflawni drwy leihau'r gyllideb wrth gefn
cyffredinol werth £3 miliwn a chamau rheoli i reoli gwariant
yn y flwyddyn bresennol ac adnabod arbedion targedig yn ystod y
flwyddyn, ydych chi’n derbyn bod gweinyddiaeth y cyngor yn
methu â sicrhau darpariaeth cadernid ariannol effeithiol a
bod rheolaeth ariannol y Cyngor o ganlyniad yn ymddangos fel ei fod
mewn trafferth gyda lefel fawr o arbedion heb eu cynllunio’n
gorfod cael eu bodloni?
Ateb gan y Cynghorydd Weaver
Y prif bwynt yw bod Adroddiad Mis 6 – Monitro’r Gyllideb, a gafodd ei ystyried gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2017, wedi dangos bod, ar lefel gyffredinol, mae’r Cyngor yn rhagweld sefyllfa gytbwys yn erbyn y gyllideb.
Oes, mae pwysau o fewn
cyllidebau cyfarwyddiaethau ac, oes, mae diffygion o bosibl yn
erbyn arbedion cyllidebol; fodd bynnag, mae’r rhain
wedi’u rheoli’n effeithiol drwy gyfuniad o osod
cyllidebau amlwg a rheoli adnoddau yn ystod y flwyddyn.
O ran sefyllfaoedd
cyfarwyddiaethau, mae prif elfen hyn yn ymwneud â phwysau o
ran y demograffig a Phlant sy’n Derbyn Gofal a phlant ag
Anghenion Dysgu Ychwanegol; pwysau sy’n gyffredin i sawl
awdurdod lleol ledled y DU.
O ystyried swm yr arbedion
cyllidebol y mae'r Cyngor hwn wedi gorfod cyflawni dros y
blynyddoedd diweddar a natur heriol y cynigion arbedion eu hunain,
nid yw'n syndod bod ychydig o risg o ran cyflawni arbedion yn ystod
y flwyddyn. Caiff y risgiau hyn eu nodi’n glir yn Adroddiad
Cyllidebol y Cyngor.
Dylid nodi hefyd, yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r diffygion arfaethedig oherwydd materion amseru, yn hytrach na methiant i gyflawni’r arbedion yn eu cyfanrwydd. Cydnabuwyd y ffactorau hyn yng Nghyllideb 2017/18 y Cyngor gyda'r Gronfa Gyffredinol wrth Gefn wrth £3miliwn yn cael ei rhoi i un ochr o adlewyrchu risgiau posibl yn y maes hwn.
Rwy’n cytuno bod rheoli cyllidol a
disgyblu’n bwysig, ac mae fy nghydweithwyr Cabinet yn
rhannu’r farn honno. Gall y canlyniadau o
benderfyniadau’n ymrwymo’r Cyngor i bolisi neu broject
fod yn sylweddol iawn. Er enghraifft, gwnaeth yr achos busnes ar
gyfer cymorthdalu’r arddangosiad Dr Who a gafodd ei lofnodi
yn 2011 gymryd y byddai’r cynllun yn gost-niwtral, ond mae
wedi gadael y Cyngor yn atebol am £1.147 miliwn, gan greu her
ychwanegol o ran gosod cyllideb gytbwys. Dylai pob gwneuthurwr
penderfyniadau fod yn ymwybodol o effaith penderfyniadau o’r
fath.
Hoffwn nodi, yn hytrach
na’r sefyllfa’n bod yn debyg i’r sefyllfa a
soniais di amdano yn dy gwestiwn, mae rheolaeth ariannol y Cyngor
hwn yn dal i fod yn effeithiol, o ran rheoli’r
sefyllfa’n ystod y flwyddyn ac o ran adnabod a rheoli'r
risgiau ariannol yn y tymor canolig.
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Berman
Fel y nodwyd ym mharagraff 4
o adroddiad monitro’r gyllideb mis 6 yng nghyfarfod y Cabinet
ym mis Tachwedd, allwch chi roi manylion llawn o bob cam rheoli
sydd wedi'i roi ar waith ledled cyfarwyddiaethau i reoli gwariant
yn y flwyddyn ariannol bresennol, a manylion llawn am yr arbedion
targedig yn ystod y flwyddyn sydd wedi'u hadnabod gan
gyfarwyddiaethau?
Ateb gan y Cynghorydd
Weaver
Roedd y camau rheoli a roddwyd ar waith yn ystod y flwyddyn yn cynnwys adolygiad o bob prif maes gwariant gan gyfarwyddiaethau. Roedd hyn yn cynnwys unrhyw brynu nwyddau a gwasanaethau nad oeddent yn angenrheidiol, adolygiad o ymgysylltu ag asiantau, gweithio goramser a’r amseriad a’r angen i lenwi swyddi wrth iddynt ddod yn wag. Mae cyfarwyddiaethau hefyd wedi adolygu ffynonellau incwm er mwyn ceisio cyfleoedd newydd i fanteisio ar incwm yn y flwyddyn bresennol. Yn ogystal, mae cyfarwyddiaethau wedi adnabod arbedion targedig yn ystod y flwyddyn, a gafodd eu hadlewyrchu’n rhan o’r rhagolygon Mis 6 yn yr Adroddiad Monitro’r Gyllideb - Mis 6 a gafodd ei ystyried gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2017. Roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o fesurau gwahanol, gan gynnwys cynnal swyddi gwag, adnabod incwm ychwanegol, defnyddio cronfeydd wrth gefn, manteisio ar gyllid grant a gostyngiadau targedig i wariant allanol.
CWESTIWN YSGRIFENEDIG I’R AELOD CABINET TAI A CHYMUNEDAU
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Carter
Pa gamau sy’n cael eu
cymryd i gadw cyffuriau allan o lochesi nos a llety eraill i
gysgwyr stryd?
Ateb gan y Cynghorydd
Thorne
O ran rheoli eiddo, mae pob darparwr llety digartref yn cydymffurfio’n llawn â Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Golyga hyn na fyddant yn caniatau na'n dioddef cynhyrchiad neu ymgais i gynhyrchu unrhyw sylwedd a reolir, cyflenwi neu ymgais i gyflenwi unrhyw sylwedd a reolir na smygu canabis, resin canabis nac opiwm wedi'i baratoi.
Yn rhan o hyn, mae pob
sefydliad yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu ac yn
rhannu'r holl wybodaeth berthnasol. Byddai preswylydd sy’n
torri’r amodau hyn hefyd yn torri eu cytundeb preswyliad ac
yn wynebu camau disgyblu, hyd at a chan gynnwys cael eu troi allan.
Ni fyddai’r materion hyn yn cael eu hanwybyddu a byddai pob
tystiolaeth ac amheuon yn cael eu dilyn i fyny.
Mewn perthynas â
defnydd personol o sylweddau a reolir, bydd gan bob cynllun ei
bolisi cyffuriau ei hun. Cafodd y rhain eu datblygu’n dilyn
ymgynghoriad uniongyrchol â Heddlu De Cymru.
Mae pob cyfrif diweddar wedi
darganfod bod oddeutu 70% o bobl sy’n cysgu ar y stryd yn
dioddef gan broblemau camddefnyddio sylweddau drwg iawn. Gan hynny,
mae’n rhaid i wasanaethau rheng-flaen weithio gyda defnyddwyr
i'w helpu nhw i fynd ar ôl yr angen hwn, a dylai polisiau
adlewyrchu hyn i osgoi allgau lluosog a bod yn fwy agored i niwed.
Byddai hyn yn berthnasol ond i'r llety y mae defnyddiwr gwasanaeth
yn byw ynddo. Yn amlwg, ni fyddai defnyddio cyffuriau mewn gofod
cysgu a rennir ac ardaloedd cyffredin eraill yn cael ei oddef mewn
unrhyw gynllun.
Bydd triniaeth, adsefydlu a chynlluniau ail gam eraill sy’n gweithio gyda phobl sy’n ymgysylltu’n ymarferol â chymorth i ddatrys eu problem cyffuriau yn gosod amodau mwy llym ar ddefnydd personol. Mae hyn yn cynnwys monitro agos i brofion cyffuriau gwirfoddol ac mae angen sicrhau bod unrhyw ail bwl y mae unigolyn yn ei ddioddef yn effeithio ar wellhad unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth eraill. Mae model Porth y Cyngor yn sicrhau y gallwn weithio tuag at leoli pobl yn unol â’u hangen â'u dewis.
CWESTIWN YSGRIFENEDIG I’R ARWEINYDD
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Boyle
A yw UEFA wedi dweud wrthym
pam fod ein bid hwyr i fod yn ddinas groeso ar gyfer Pencampwriaeth
Ewropeaidd 2020 wedi bod yn aflwyddiannus?
Ateb gan y Cynghorydd Huw
Thomas
Bues i mewn cyfarfod â Phrif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CPD) ar ôl y penderfyniad a gafodd ei gyhoeddi gan UEFA ar 7 Rhagfyr 2017 ac rwy’n gwybod ein bod wedi derbyn adborth positif iawn bod bid Caerdydd yn gadarn ac yn gryf.
Roedd y broses gwneud
penderfyniadau gan Bwyllgor Gweithredol UEFA yn seiliedig ar
bleidleisiau aelodau pwyllgor ac, yn anffodus, gwnaethom golli
allan i Stadiwm Wembley Llundain, sydd eisoes yn cynnal gemau yn
rhan o EURO 2020.
Bydd y Cyngor yn parhau i
weithio mewn partneriaeth â ChPD, Llywodraeth Cymru, Heddlu
De Cymru a sefydliadau eraill i ddod â digwyddiadau mawr
pêl-droed i Gaerdydd yn y dyfodol.
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Wood
Bu i fesurau diogelwch
diwygiedig yn ystod gemau rygbi rhyngwladol yr hydref arwain at
giwiau difrifol ar balmentydd a mannau agored y tu allan i’r
stadiwm. Roedd rhai cefnogwyr yn peri pryder am y lleoedd cyfyng
hyn, ac yn aml roedd y ciwiau'n rhoi nhw mewn perygl. Gyda’r
gemau rhyngwladol Chwe Gwlad yn dod i fyny mae’n bosibl y
bydd y ciwiau hyn yn digwydd eto, a oes unrhyw asesiadau risg
diwygiedig wedi’u cynnal?
Allwch chi roi unrhyw
sicrwydd i gefnogwyr rygbi, am eu diogelwch wrth giwio i fynd i
mewn i’r stadiwm cyn pasio’r pwyntiau gwirio
diogelwch?
Ateb gan y Cynghorydd Huw
Thomas
Mae diogelwch y cyhoedd ac, yn yr un modd, yr aelodau staff ym mhob lleoliad stadiwm yng Nghaerdydd yn gyfrifoldeb ac yn flaenoriaeth i dîm rheoli diogelwch pob lleoliad; yn yr un modd mae Gr?p Ymgynghorol Diogelwch Tiroedd Chwaraeon y Cyngor yn gweithio gyda phob lleoliad i gyflawni'r targed.
Mae gan aelodau’r cyhoedd hefyd gyfrifoldeb iddyn nhw eu hunain a phobl eraill ac o ran hynny, maent yn cael eu cynghori i ddilyn y cyngor a chanllawiau a ddarperir er eu budd eu hunain wrth fynychu digwyddiadau o’r fath. Yn y misoedd diweddar, rhan o’r cyngor hwn yw – a fydd yn dal i fod i’r dyfodol – bod pobl sy’n cyrraedd y stadiwm yn caniatáu digon o amser i hwyluso'r gwiriadau diogelwch angenrheidiol ac y dylent osgoi cario bagiau neu eitemau eraill nad oes eu hangen.
Cyfres yr Hydref yn y
Stadiwm Principality oedd y gemau rygbi cyntaf lle cafodd y mesurau
diogelwch ychwanegol hyn eu gweithredu. Yn dilyn y problemau a
gafwyd yn ystod y gêm cyntaf ar 11 Tachwedd 2017, wnaeth
ddenu torf o dros 70,000, gwnaeth y Prif Weithredwr a minnau yn
rhinwedd ein swyddi fel cyfarwyddwyr Stadiwm y Mileniwm plc, godi'r
mater yn uniongyrchol â swyddogion Undeb Rygbi Cymru i
sicrhau bod gwelliannau'n cael eu rhoi ar waith yn unol
â’r gofynion diogelwch. Drwy gydol Cyfres yr Hydref,
cafodd cynlluniau gweithredol eu hail-werthuso a’u mireinio i
leihau’r ciwio a, lle bo’n bosibl, i leihau’r
risg i’r cyhoedd oedd yn ciwio. Bydd yr un dull yn cael ei
ddefnyddio i ddigwyddiadau i’r dyfodol, gan gynnwys
gemau’r Chwe Gwlad.
Er nad yw’n bosibl i
roi gwarantau mewn perthynas â diogelwch y cyhoedd, gallaf
roi sicrwydd i chi bod proses asesu risg manwl ar waith ar gyfer
pob digwyddiad. Mae’r broses yn cynnwys rheolwyr y stadiwm,
Heddlu De Cymru, y gwasanaethau gwybodaeth, gwasanaethau brys
eraill a’r Cyngor, sydd gyda’i gilydd yn pennu’r
mesurau priodol sydd eu hangen i roi sicrwydd ac i ddiogelu’r
cyhoedd.
CWESTIWN YSGRIFENEDIG I’R AELOD CABINET CYNLLUNIO STRATEGOL A THRAFNIDIAETH
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Carter
Pwy gytunodd ar osod
rhwystrau gwrth-derfysgaeth ar lwybr beicio newydd Bae
Caerdydd?
Ateb gan y Cynghorydd
Wild
Cafodd y gosodiad ei gytuno gydag Awdurdod Harbwr Caerdydd yn dilyn cyngor gan Uned Eithafiaeth a Gwrth-Derfysgaeth Cymru.
Cwestiwn Ysgrifenedig gan y Cynghorydd Carter
Pan gafodd parcio a theithio
Dwyrain Caerdydd cyntaf ei sefydlu, ennillodd Bws Caerdydd (a First
gynt) y tendr i weithredu'r gwasanaeth ar ran y cyngor ar sail
wedi'i gomisiynu. Dan y contract presennol, allwch chi egluro pwy
sy’n gyfrifol am newid gwasanaethau a phrisiau yn y contract
Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd presennol?
Ateb gan y Cynghorydd
Wild
Mae Bws Caerdydd yn gweithredu’r gwasanaethau bysus ac yn rheoli’r safle. Mae Bws Caerdydd yn cadw’r refeniw. Mae’r contract presennol yn galluogi Bws Caerdydd i newid y gweithrediad a’r tariffau, yn amodol ar gytundeb gan y Cyngor.
Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2018 - Cyngor
Dogfennau Cefnogol: