English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Cynnig 1

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Defnyddiodd yr Arglwydd Faer ei ddisgresiwn i addasu trefn yr agenda i adael i Gynnig 3 gael ei glywed gyntaf.

Dywedodd yr Arglwydd Faer fod hysbysiad o gynnig, wedi’i gynnig gan y Cynghorydd Bablin Molik a’i gefnogi gan y Cynghorydd Joe Carter, wedi'i dderbyn i’w ystyried a’i gynnwys yn y Gwysion ar gyfer y cyfarfod.  Derbyniwyd dau ddiwygiad i’r cynnig.

Roedd yr Hysbysiad o Gynnig fel a ganlyn:

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:

  • Mae’r adroddiad ‘Trapped in a Bubble’ yn amcangyfrif bod 18% o bobl yn teimlo’n unig ‘drwy’r amser’ neu ‘yn aml’.
  •   Byddai hyn gyfystyr â 62,000 o bobl yng Nghaerdydd - mae pobl o bob oedran, cefndir ethnig, gallu a hunaniaeth rywiol yn agored i unigrwydd
  • Tra bod ffactorau unigol â rhan allweddol i'w chwarae, gall ffactorau cymunedol a chymdeithasol gyfrannu at unigrwydd
  • Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall diffyg cysylltiadau cymdeithasol fod mor niweidiol i’n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd
  • Mae gwaith project a gomisiynwyd gan yr Eden Project yn amcangyfrif bod allgau cymdeithasol a chymunedau digyswllt yng Nghymru yn costio £2.6 biliwn y flwyddyn
  • mae gan y trydydd sector rôl ganolog i'w chwarae yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac allgau
  • Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau i atal unigrwydd yn gwella iechyd a llesiant yn yr hirdymor ac yn arbed arian i gyllidebau iechyd a chymdeithasol a chymdeithas gyfan.

Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:

Llunio strategaeth i fynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghaerdydd gan roi ystyriaeth i’r canlynol:

  • Partneriaeth glos gyda sefydliadau trydydd sector
  • Defnyddio ystod o ymyriadau sydd eisoes ar waith mewn ardaloedd eraill megis modelau cenedlaethau’n cydfyw, gwasanaethau cyfeillio, clybiau cymdeithasol a chyfleoedd i wirfoddoli
  • Defnyddio rôl landlord corfforaethol y cyngor i alluogi grwpiau sy’n mynd i'r afael ag unigrwydd i ddefnyddio mwy ar gyfleusterau awdurdod lleol
  • Annog ysgolion, colegau a phrifysgolion i greu diwylliant sy'n gwirfoddoli ymhlith eu myfyrwyr er mwyn mynd i’r afael a’r blwch rhwng y cenedlaethau ac annog ymgysylltiad a chyfranogiad.

Diwygiad 1: Cynigwyd gan y Cynghorydd Jayne Cowan

                         Eiliwyd gan y Cynghorydd David Walker

Ychwanegu brawddeg ychwanegol ar y dechrau fel a ganlyn:

 “Mae’r Prif Weinidog yn ddiweddar wedi penodi Gweinidog Unigrwydd i daclo’r materion cymdeithasol ac iechyd a achosir gan allgáu cymdeithasol, gyda chronfa werth miliynau o bunnoedd”

Diwygio’r Canlyniad gan ychwanegu “dod ag adroddiad yn ôl i’r Cyngor Llawn ym mis Medi 2018" ar ôl Mae'r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i

Ychwanegu dau bwynt bwled yn syth ar ôl y canlyniad diwygiedig fel a ganlyn:

  •  “adfer cyllid ar gyfer clybiau cinio, tra’n gweithio gyda Chynghorwyr lleol, grwpiau a sefydliadau cymunedol i helpu i sefydlu grwpiau newydd neu i adfer rhai sydd eisoes wedi cau"
  • Cydnabod y gwaith da a wnaethpwyd gan Grwpiau Cymdogion Da ledled Caerdydd sy’n gwasanaethu llawer o’n preswylwyr yn dda.  Ymchwilio i opsiynau cyllid i barhau i dyfu’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu.”

Byddai’r Cynnig ar ôl ei ddiwygio fel a ganlyn:

Mae’r Prif Weinidog yn ddiweddar wedi penodi Gweinidog Unigrwydd i daclo’r materion cymdeithasol ac iechyd a achosir gan allgáu cymdeithasol, gyda chronfa werth miliynau o bunnoedd.

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:

  • Mae’r adroddiad ‘Trapped in a Bubble’ yn amcangyfrif bod 18% o bobl yn teimlo’n unig ‘drwy’r amser’ neu ‘yn aml’.
  •   Byddai hyn gyfystyr â 62,000 o bobl yng Nghaerdydd - mae pobl o bob oedran, cefndir ethnig, gallu a hunaniaeth rywiol yn agored i unigrwydd
  • Tra bod ffactorau unigol â rhan allweddol i'w chwarae, gall ffactorau cymunedol a chymdeithasol gyfrannu at unigrwydd
  • Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall diffyg cysylltiadau cymdeithasol fod mor niweidiol i’n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd
  • Mae gwaith project a gomisiynwyd gan yr Eden Project yn amcangyfrif bod allgau cymdeithasol a chymunedau digyswllt yng Nghymru yn costio £2.6 biliwn y flwyddyn
  • mae gan y trydydd sector rôl ganolog i'w chwarae yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac allgau
  • Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau i atal unigrwydd yn gwella iechyd a llesiant yn yr hirdymor ac yn arbed arian i gyllidebau iechyd a chymdeithasol a chymdeithas gyfan.

Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i ddod yn ôl i’r Cyngor llawn erbyn mis Medi 2018:

Datblygu strategaeth i fynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghaerdydd gan roi ystyriaeth i’r canlynol:

  • adfer cyllid ar gyfer clybiau cinio, tra’n gweithio gyda Chynghorwyr lleol, grwpiau a sefydliadau cymunedol i helpu i sefydlu grwpiau newydd neu i adfer rhai sydd eisoes wedi cau
  • cydnabod y gwaith da a wnaethpwyd gan Grwpiau Cymdogion Da ledled Caerdydd sy’n gwasanaethu llawer o’n preswylwyr yn dda.  Ymchwilio i opsiynau cyllid i barhau i dyfu’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu.
  • partneriaethau agos gyda sefydliadau trydydd sector;
  • defnyddio ystod o ymyriadau sydd eisoes ar waith mewn ardaloedd eraill megis modelau cenedlaethau’n cydfyw, gwasanaethau cyfeillio, clybiau cymdeithasol a chyfleoedd i wirfoddoli
  • Defnyddio rôl landlord corfforaethol y cyngor i alluogi grwpiau sy’n mynd i'r afael ag unigrwydd i ddefnyddio mwy ar gyfleusterau awdurdod lleol
  • Annog ysgolion, colegau a phrifysgolion i greu diwylliant sy'n gwirfoddoli ymhlith eu myfyrwyr er mwyn mynd i’r afael a’r blwch rhwng y cenedlaethau ac annog ymgysylltiad a chyfranogiad.

Diwygiad 2: Cynigwyd gan y Cynghorydd Susan Elsmore

                            Eiliwyd gan y Cynghorydd Lynda Thorne

Pwynt Bwled 1 – ail frawddeg ar ôl y geiriau gyfystyr ag ychwanegu "oddeutu"

Pwynt Bwled 2 – ailenwi fel a ganlyn:

  • Gallai unrhyw un brofi unigrwydd waeth beth fo’i oedran, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol neu allu;

Dileu Pwynt Bwled 3

Pwynt Bwled 4 - llinell gyntaf ar ôl ymchwil, dileu wedi a disodli gyda "yn dangos"

Pwynt Bwled 4 ar ddiwedd y frawddeg nodi ffynhonnell (Holt-Lunstad 2015);

Pwynt Bwled 6 - disodli gyda “Mae gan bob sector, gan gynnwys y trydydd sector, rôl hanfodol i'w chwarae o ran hyrwyddo a chynnig gwasanaethau sy'n helpu i fynd ar ôl unigedd ac allgau;"

Pwynt Bwled 7 - dileu popeth ar ôl llesiant

Dileu popeth ar ôl Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i: tan pwynt bwled 4 a disodli gyda

Parhau i ddatblygu a chydlynu’r strategaethau hynny i daclo unigedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys:

(i)            Cymorth i bobl h?n a grwpiau cymunedol i ddatblygu a chyflawni datrysiadau lleol sy'n gwrthwneud unigedd, er enghraifft y Strategaeth Cyfleoedd Dydd;

(ii)           Gweithio gyda chymunedau ledled cenedlaethau i feithrin strwythurau anffurfiol sy’n galluogi pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas ar eu telerau eu hunain, er enghraifft Gwasanaethau Ataliol, mewn partneriaeth â Sefydliad Dinas Caerdydd, sydd wedi creu project llythrennedd pontio'r cenedlaethau am yr ail flwyddyn yn olynol ar y cyd â phedair ysgol gynradd a phobl h?n.

(iii)          Mae’r Gwasanaethau Oedolion, drwy Bartneriaeth Iachus ac Actif (HAP), yn comisiynu ymyriadau targedig o ran atal mynediad diangen at wasanaethau iechyd statudol, neu wasanaethau gofal cymdeithasol neu i atal neu ohirio cynnydd mewn ymyriad pecynnau gofal presennol.

(iv)            Mae hwn yn wasanaeth yn seiliedig ar wirfoddolwyr sy’n mynd ar ôl allgáu cymdeithasol ac unigrwydd rwy annog a chefnogi unigolion i gael mynediad at gyfleusterau cymunedol a gweithgareddau fyddai o ddiddordeb iddyn nhw.

(v)           Ystyried ffyrdd arloesol i gefnogi grwpiau cymunedol drwy annog defnydd o gyfleusterau’r Cyngor, er enghraifft llyfrgelloedd a hybiau ar gyfer Dydd Mercher Llesiant;

Byddai’r Cynnig ar ôl ei ddiwygio fel a ganlyn:

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:

  • Mae’r adroddiad ‘Trapped in a Bubble’ yn amcangyfrif bod 18% o bobl yn teimlo’n unig ‘drwy’r amser’ neu ‘yn aml’.
  •   Byddai hyn gyfystyr ag oddeutu 62,000 o bobl yng Nghaerdydd; Gallai unrhyw un brofi unigrwydd waeth beth fo’i oedran, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol neu allu;
  • Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall diffyg cysylltiadau cymdeithasol fod mor niweidiol i’n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd (Holt-Lunstad, 2015);
  • Mae gwaith project a gomisiynwyd gan yr Eden Project yn amcangyfrif bod allgau cymdeithasol a chymunedau digyswllt yng Nghymru yn costio £2.6 biliwn y flwyddyn
  • Mae gan bob sector, gan gynnwys y trydydd sector, rôl hanfodol i'w chwarae o ran hyrwyddo a chynnig gwasanaethau sy'n helpu i fynd ar ôl unigedd ac allgau;
  • Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau i atal unigrwydd yn gwella iechyd a llesiant.

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet:

(iii)           Mae’r Gwasanaethau Oedolion, drwy Bartneriaeth Iachus ac Actif (HAP), yn comisiynu ymyriadau targedig o ran atal mynediad diangen at wasanaethau iechyd statudol, neu wasanaethau gofal cymdeithasol neu i atal neu ohirio cynnydd mewn ymyriad pecynnau gofal presennol.  Mae hwn yn wasanaeth yn seiliedig ar wirfoddolwyr sy’n mynd ar ôl allgáu cymdeithasol ac unigrwydd rwy annog a chefnogi unigolion i gael mynediad at gyfleusterau cymunedol a gweithgareddau fyddai o ddiddordeb iddyn nhw.

(iv)          Ystyried ffyrdd arloesol i gefnogi grwpiau cymunedol drwy annog defnydd o gyfleusterau’r Cyngor, er enghraifft llyfrgelloedd a hybiau ar gyfer Dydd Mercher Llesiant;

(v)           Annog ysgolion, colegau a phrifysgolion i greu diwylliant sy'n gwirfoddoli ymhlith eu myfyrwyr er mwyn mynd i’r afael a’r blwch rhwng y cenedlaethau ac annog ymgysylltiad a chyfranogiad.

Gwahoddodd yr Arglwydd Faer drafodaeth ar y cynnig.  Ar ddiwedd y drafodaeth gwahoddodd yr Arglwydd Faer y Cynghorydd Molik i grynhoi.  Wrth grynhoi, nododd y Cynghorydd Molik na fyddai’n derbyn unrhyw un o’r diwygiadau.

Symudodd yr Arglwydd Faer at y pleidleisiau.

Cynhaliwyd pleidlais ar Ddiwygiad 1 a gynhigiodd y Cynghorydd Cowan. COLLWYD y bleidlais.

Cynhaliwyd pleidlais ar Ddiwygiad 2 a gynhigiodd y Cynghorydd Elsmore. PASIWYD y bleidlais.

Byddai’r cynnig terfynol fel a ganlyn:

Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:

  • Mae’r adroddiad ‘Trapped in a Bubble’ yn amcangyfrif bod 18% o bobl yn teimlo’n unig ‘drwy’r amser’ neu ‘yn aml’.
  •   Byddai hyn gyfystyr ag oddeutu 62,000 o bobl yng Nghaerdydd; Gallai unrhyw un brofi unigrwydd waeth beth fo’i oedran, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol neu allu;
  • Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall diffyg cysylltiadau cymdeithasol fod mor niweidiol i’n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd (Holt-Lunstad, 2015);
  • Mae gwaith project a gomisiynwyd gan yr Eden Project yn amcangyfrif bod allgau cymdeithasol a chymunedau digyswllt yng Nghymru yn costio £2.6 biliwn y flwyddyn
  • Mae gan bob sector, gan gynnwys y trydydd sector, rôl hanfodol i'w chwarae o ran hyrwyddo a chynnig gwasanaethau sy'n helpu i fynd ar ôl unigedd ac allgau;
  • Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau i atal unigrwydd yn gwella iechyd a llesiant.

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet:

Parhau i ddatblygu a chydlynu’r strategaethau hynny i daclo unigedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys:

(i)            Cymorth i bobl h?n a grwpiau cymunedol i ddatblygu a chyflawni datrysiadau lleol sy'n gwrthwneud unigedd, er enghraifft y Strategaeth Cyfleoedd Dydd;

(ii)          Gweithio gyda chymunedau ledled cenedlaethau i feithrin strwythurau anffurfiol sy’n galluogi pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas ar eu telerau eu hunain, er enghraifft Gwasanaethau Ataliol, mewn partneriaeth â Sefydliad Dinas Caerdydd, sydd wedi creu project llythrennedd pontio'r cenedlaethau am yr ail flwyddyn yn olynol ar y cyd â phedair ysgol gynradd a phobl h?n.

(iii)         Mae’r Gwasanaethau Oedolion, drwy Bartneriaeth Iachus ac Actif (HAP), yn comisiynu ymyriadau targedig o ran atal mynediad diangen at wasanaethau iechyd statudol, neu wasanaethau gofal cymdeithasol neu i atal neu ohirio cynnydd mewn ymyriad pecynnau gofal presennol.

(iv)          Mae hwn yn wasanaeth yn seiliedig ar wirfoddolwyr sy’n mynd ar ôl allgáu cymdeithasol ac unigrwydd rwy annog a chefnogi unigolion i gael mynediad at gyfleusterau cymunedol a gweithgareddau fyddai o ddiddordeb iddyn nhw.

(v)           Ystyried ffyrdd arloesol i gefnogi grwpiau cymunedol drwy annog defnydd o gyfleusterau’r Cyngor, er enghraifft llyfrgelloedd a hybiau ar gyfer Dydd Mercher Llesiant;

(vi)          Annog ysgolion, colegau a phrifysgolion i greu diwylliant sy'n gwirfoddoli ymhlith eu myfyrwyr er mwyn mynd i’r afael a’r blwch rhwng y cenedlaethau ac annog ymgysylltiad a chyfranogiad.

Pleidleisiwyd ar y Cynnig Terfynol.  PASIWYD y Cynnig Terfynol.

Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2018 - Cyngor

Dogfennau Cefnogol:

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.